Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i serennu yng nghyfres ddogfen newydd ITV2

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ym mis Medi, bydd Mentorn Media yn creu cyfres ddogfen o’r enw Freshers i ITV2, gan ddilyn grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe wrth iddynt gychwyn ar fywyd fel myfyrwyr a dysgu sut i sefyll ar eu traed eu hunain.

Yn yr ail gyfres o’r rhaglen realiti hon, bydd Freshers yn dilyn grŵp o fyfyrwyr dros bythefnos gyntaf y flwyddyn academaidd newydd, gan ddangos sut brofiad yw hi i gychwyn ar un o adegau pwysicaf bywyd; gadael cartref, cwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau, cymdeithasu, coginio a glanhau, mynychu Ffair y Glas, a thrawsnewid i fod yn fyfyriwr.

Freshers ITV2 Mentorn Media yw un o gwmnïau cynhyrchu annibynnol hynaf a mwyaf uchel ei barch ym Mhrydain. Maent yn creu amrywiaeth o raglenni, gan gynnwys: Question Time, An Idiot Abroad a’r rhaglen ddogfen arobryn Katie: My Beautiful Face.

Os oes gennych  ddiddordeb cymryd rhan yn y gyfres hon, e-bostiwch freshers@mentorn.tv neu danfonwch lythyr at Freshers, Mentorn Media, Elsinore House, 77 Fulham Palace Road, London W6 8JA, gan nodi’ch manylion cyswllt, y pwnc rydych yn astudio, a gwybodaeth am eich diddordebau. Mae’n rhaid eich bod chi dros 18 mlwydd oed, ac yn cychwyn ar eich astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi 2014 i fod yn rhan o’r gyfres.