Llwyddiant i ddau o academyddion Prifysgol Abertawe yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar nos Iau, 10 Gorffennaf, cipiodd dau o academyddion Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe wobrau yn seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2014 a gynhaliwyd yn Galeri Caernarfon.

Enwyd Rhwng y Llinellau (Cyhoeddiadau Barddas) gan yr Athro Christine James fel enillydd y categori Barddoniaeth, a chipiodd yr Athro Alan Llwyd y wobr yn y categori Ffeithiol Greadigol gyda’i gofiant cynhwysfawr o fywyd a gwaith y bardd R. Williams Parry, Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884 – 1956 (Gwasg Gomer).

Christine James Mae Rhwng y Llinellau yn cynnwys dilyniannau a cherddi unigol a gyfansoddwyd rhwng 2003 a 2013. Ceir cerddi yn ymateb i waith celf, cerddi hunangofiannol am blentyndod yng Nghwm Rhondda, cerddi taith, a cherddi achlysurol i gyfeillion a chydnabod.

Mae cofiant yr Athro Alan Llwyd i R. Williams Parry yn bwrw goleuni newydd ar y bardd a’i waith gan herio’r darlun traddodiadol ohono. Yn ogystal â thrafod ei farddoniaeth, mae Bob yn llwyddo i fynd dan groen y gŵr hynod hwn gan drafod ei fywyd, ei gynefin, ei deulu, ei addysg a’r holl ddylanwadau arno.

Yn ystod y seremoni wobrwyo, dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Braint o’r mwyaf yw cael cyhoeddi enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn yng Nghaernarfon eleni. Dyma dref sy’n angerddol dros lyfrau, ac mae’r gefnogaeth leol wedi sicrhau llwyddiant y seremoni. Llongyfarchiadau mawr i Christine James, Alan Llwyd a Ioan Kidd. Mae’r tri llenor wedi llwyddo i ddarlunio cymeriadau llawn a lliwgar yn eu cyfrolau llwyddiannus – rhai fydd yn sicr o ddal eu gafael ar ddarllenwyr Cymru.”

Yn ystod yr un wythnos â gwobrau Llyfr y Flwyddyn, dyrchafwyd yr Archdderwydd, Christine James, yn Athro’r Gymraeg yn Academi Hywel Teifi.

Meddai Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Mae holl staff yr Academi'n ymhyfrydu yn llwyddiant Christine ac Alan. Mae llwyddiant haeddiannol y ddau yn amlygu'r gwaith ymchwil arbennig a gaiff ei gyflawni yn yr Academi a'r creadigrwydd cyfoethog a geir yma. Llongyfarchiadau mawr iddynt”.

Llun: Yr Athro Christine James gyda'i gwobr