Grant mawr yn helpu i daflu goleuni ar ymchwil solar

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe yn rhan o brosiect ymchwil cydweithredol gwerth £2 filiwn a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) i ymchwilio i ynni celloedd solar sy’n fwy diogel, yn fwy cynaliadwy ac yn addas ar gyfer gweithgynhyrchu ar raddfa fawr yn y Deyrnas Unedig.

Solar power researchMae Coleg Peirianneg y Brifysgol yn rhan o’r prosiect Technoleg Ffotofoltäig yn seiliedig ar Ddeunyddiau Helaeth ar y Ddaear (PVTEAM) a arweinir gan Brifysgol Bryste mewn partneriaeth â Phrifysgolion Caerfaddon, Northumbria, a Loughborough a’r partneriaid diwydiannol Tata Steel, Johnson Matthey ac NSG Holding (Ewrop).

Ar hyn o bryd, mae’r deunyddiau crai sy’n cynhyrchu celloedd solar yn ddrud, yn wenwynig ac yn brin, felly nod PVTEAM yw disodli’r elfennau hynny â deunyddiau actif newydd ar gyfer celloedd solar ffotofoltäig yn seiliedig ar elfennau helaeth a chost-effeithiol a fydd yn fwy diogel ac yn amgylcheddol gynaliadwy. Byddant yn gweithio gyda thechnoleg hynod denau, sydd 30 gwaith yn deneuach nag un blewyn o wallt, a wnaed gan ddefnyddio ychydig filigramau yn unig o gopr, sinc a thun.

Bydd y tîm hefyd yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu a gweithredu prosesau sy’n gydnaws â gweithgynhyrchu ar raddfa fawr yn y Deyrnas Unedig. Bydd y gwaith prosesu deunyddiau ar gyfer y prosiect yn cael ei wneud yng nghanolfan peirianneg cynnyrch cynaliadwy Abertawe ar gyfer haenau diwydiannol gweithredol arloesol (SPECIFIC), a fydd yn goruchwylio’r broses o ddylunio strategaethau cynyddu graddfa a pharatoi asesiad techno-economaidd.

Dywedodd yr Uwch Ddarlithydd ac arweinydd Abertawe ar gyfer PVTEAM, Dr Trystan Watson: “Mae mwy o ynni solar yn cyrraedd wyneb y Ddaear mewn awr nag y mae poblogaeth gyfan y byd yn ei ddefnyddio mewn blwyddyn. Mae’n bwysig ein bod ni’n cynyddu ein gallu i ddefnyddio’r haul fel ffynhonnell ynni. Mae’r prosiect ymchwil hwn yn ymrwymedig i ddatblygu a darparu deunyddiau gwell i wneud celloedd solar sy’n fwy amgylcheddol gynaliadwy y gellir eu gweithgynhyrchu ar raddfa sy’n golygu y gall diwydiannau gweithgynhyrchu’r Deyrnas Unedig ddefnyddio’r dechnoleg hon i greu cyfoeth a swyddi.”

Dywedodd David Delpy, Prif Weithredwr EPSRC: “Trwy ddatblygu a darparu’r deunyddiau, y prosesau a’r cynhyrchion gwell a ddaw o’r gwaith ymchwil hwn, bydd diwydiannau’r Deyrnas Unedig yn gallu creu cyfoeth a swyddi newydd, ar yr un pryd â mynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol ac amgylcheddol a ddeilliodd o ddefnyddio’r deunyddiau gwreiddiol a oedd yn aml yn brin ac yn anodd eu coethi.”