Dywed Pennaeth y Coleg Meddygaeth mai lles a chyfoeth pobl Cymru yw’n blaenoriaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Wrth i Goleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe ddathlu’i ddengmlwyddiant, mae pennaeth y Coleg yn dweud bod ansawdd ymchwil, dysgu ac addysgu’r Coleg ynghyd â’i ryngweithio â diwydiant a’r GIG yn ei wneud yn un o’r ysgolion meddygol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.

‌Wrth siarad mewn gala yn Amgueddfa’r Glannau Abertawe, meddai Pennaeth y Coleg, yr Athro Keith Lloyd, fod y Coleg yn gwneud cyfraniad enfawr at iechyd, lles a chyfoeth pobl yng Nghymru a thu hwnt, drwy ddenu myfyrwyr ac ymchwilwyr o’r safon orau, sefydlu cyfleusterau pwysig a gweithio gyda chwmnïau preifat a’r GIG.

CoM10dinnerHefyd dathlodd y Coleg Meddygaeth ei ddengmlwyddiant mewn steil wrth i dros 70 o feddygon raddio o’r rhaglen Meddygaeth i Raddedigion, sy’n rhaglen pedair blynedd arloesol a sefydlwyd ym mis Medi 2010 yn dilyn gwaith gyda Llywodraeth Cymru, Deoniaeth Cymru, Byrddau Iechyd lleol, ysbytai, sefydliadau cymunedol, myfyrwyr a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Cyn y rhaglen hon, byddai myfyrwyr yn y Coleg Meddygaeth yn dilyn Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion a oedd yn gydweithrediad rhwng prifysgolion Abertawe a Chaerdydd a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Byddai’r myfyrwyr hynny yn astudio am ddwy flynedd yn Abertawe cyn ymuno â dwy flynedd olaf y rhaglen israddedig yng Nghaerdydd. 

Bellach gall myfyrwyr meddygol yn Abertawe ddisgwyl dilyn cwrs arloesol sy’n adlewyrchu’r ffordd y mae clinigwyr yn ymdrin â chleifion, drwy ymchwilio i broblemau a chyflyrau o bob ongl bosibl ac mae’n paratoi’r myfyrwyr i fod yn feddygon y dyfodol.

Yn ogystal canmolodd yr Athro Lloyd effaith yr ymchwil a wneir yn y Coleg. Meddai “Mae ymchwilwyr yn ymchwilio i ffyrdd newydd o ganfod afiechydon, deall sut y mae ein cyrff yn ymladd heintiau a sut y mae gwrthfiotigau’n cael eu datblygu. Mae ymchwilwyr eraill yn edrych ar sut y gellir gwella dyfeisiau meddygol, tyfu cartilag newydd ar gyfer ein cymalau, gwerthuso triniaethau newydd a defnyddio’r llu o ddata mewn gofal iechyd i wella triniaethau a chanlyniadau i bobl yng Nghymru.

“Gyda’r cyfleusterau ymchwil pwysig a sefydlwyd yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd ac adeilad Gwyddor Data newydd sydd wrthi’n cael ei adeiladu, ymddengys fod dyfodol y Coleg Meddygaeth yn ddisglair iawn.

“Mae ysgol feddygol Abertawe’n adeiladu cylch rhinweddol - gan ddenu grantiau mwy, mwy o fyfyrwyr, mwy o gwmnïau a chan weithio i wella iechyd pobl Cymru a thu hwnt.”