Dathlu 200 diwrnod i fynd gyda lansiad rhaglen yr ‘Hyrwyddwyr’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw (30ain Ionawr 2014) rydym yn dathlu mai dim ond 200 diwrnod sydd i fynd nes bydd Pencampwriaethau Athletau Ewropeaidd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol ‐ Abertawe 2014 ‐ y gystadleuaeth Baralympaidd fwyaf erioed i gael ei chynnal yng Nghymru, yn dechrau. I ddathlu’r achlysur hwn, lansiwyd rhaglen wirfoddoli’r ‘Hyrwyddwyr’ mewn digwyddiad ym Mhentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe.

Swansea 2014 Champions launch

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn y digwyddiad, gwelwyd y Paralympiaid a llysgenhadon Abertawe 2014, Aled Siôn Davies MBE a Josie Pearson MBE, yn ymuno â Chadeirydd y pwyllgor trefnu, Mr Paul Thorburn, i groesawu dewis y gwirfoddolwyr cyntaf i gofrestru gyda’r rhaglen.

Mae trefnwyr y Bencampwriaeth yn gobeithio recriwtio hyd at 1000 o wirfoddolwyr o bob cwr o Ewrop i helpu gyda llwyfannu’r digwyddiad, y cyntaf o’i fath i’w gynnal yn y DU. Mae’r ceisiadau wedi agor ar‐lein heddiw yn www.Swansea2014.com ac mae gan y darpar ‘Hyrwyddwyr’ tan Fawrth 30ain i ymgeisio.

Bydd yr ‘Hyrwyddwyr’ yn cael cyfle unwaith mewn oes i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o ddyletswyddau, o wirfoddolwyr cyffredinol yn helpu mewn lleoliadau i ddyletswyddau arbenigol gan gynnwys gyrwyr, cyfieithwyr a gweithredwyr cyfryngau.

Dywedodd Paul Thorburn, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Abertawe 2014: “Mae heddiw’n ddiwrnod eithriadol bwysig i’r digwyddiad, i’r ddinas ac i Gymru. Yr Hyrwyddwyr y byddwn ni’n eu recriwtio yn ystod y misoedd nesaf fydd un o elfennau pwysicaf Abertawe 2014, gan helpu i gyflwyno’r pencampwriaethau Para‐athletau Ewropeaidd gorau erioed hyd yma, a sicrhau bod miloedd o athletwyr, swyddogion a gwylwyr yn cael profiad cwbl fythgofiadwy. Er ein bod yn croesawu ceisiadau o bob cwr o’r byd, rydyn ni am weld pobl Abertawe yn rhan o’r digwyddiad yma ac rydyn ni’n gobeithio y bydd cyfran fawr o’r Hyrwyddwyr yn dod o gymunedau lleol. ”

Dywedodd y Paralympiad, Aled‐Siôn Davies MBE, sy’n Llysgennad ar ran Abertawe 2014: “Rydw i ar ben fy nigon bod Pencampwriaethau Athletau Ewropeaidd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn cael eu cynnal ar ein tir cartref ni yma yn Abertawe eleni ac, fel llysgennad ar gyfer y digwyddiad, rydw i’n gwybod y gallwn ni lwyfannu cystadlu o safon uchel a chreu hanes. Ond mae’n rhaid cael gwirfoddolwyr i wneud y digwyddiad yn un llwyddiannus – maen nhw’n dod ag egni ac ysbryd at y bwrdd, sy’n amhrisiadwy. Fe hoffwn i annog pawb i ystyried gwirfoddoli, oherwydd mae posib iddyn nhw fod yn rhan o rywbeth arbennig iawn.

Dywedodd y Prif Hyfforddwr Paralympaidd, Paula Dunn: “Mae heddiw’n nodi carreg filltir arall ar y ffordd at Bencampwriaethau Ewropeaidd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol. Roedd criw gwych o wirfoddolwyr yn Lyon, gan helpu i greu Pencampwriaethau Byd hynod lwyddiannus i’r Pwyllgor y llynedd ac rwy’n siŵr y bydd yr un peth yn digwydd yn Abertawe 2014. Nid dim ond yr athletwyr sy’n gwneud pencampwriaethau, ond hefyd y bobl yn y cefndir, o’r gwirfoddolwyr i’r hyfforddwyr sy’n creu amgylchedd o safon byd.

“Mae Llundain 2012 wedi helpu i greu etifeddiaeth ar gyfer chwaraeon Paralympaidd ac rwy’n hyderus y gall Abertawe, ochr yn ochr â’r cystadlaethau para‐athletig eraill sy’n cael eu cynnal ym mhob cwr o’r byd, helpu gyda dal ati i ddod o hyd i’r garfan nesaf o dalent.”

Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan, rhaid iddynt fod ar gael am ddeg diwrnod yn ystod cyfnod y Pencampwriaethau a bydd arnynt angen eu cludiant a’u llety eu hunain.

Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi i’r holl ymgeiswyr llwyddiannus. Bydd gwirfoddolwyr iau’n cael eu cynnwys drwy gyfrwng y rhaglenni sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys Llysgenhadon Ifanc Dinas a Sir Abertawe.

Cynhelir Abertawe 2014 ym Mhentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe rhwng y 18fed a’r 23ain Awst eleni a bydd tua 600 o athletwyr gorau’r byd yn cystadlu yno am yr anrhydedd wrth iddynt anelu at gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Rio yn 2016.

Cyflwynir y Pencampwriaethau gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Chwaraeon Anabledd Cymru, Athletau Prydain, Athletau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Swansea 2014 Championship Mark larger