Darlithydd o Decsas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd arbenigwr addysg o Decsas yn rhoi darlith yn Abertawe ar ddefnydd adrodd storĂ¯au mewn gofal iechyd academaidd.

Bydd arbenigwr addysg o Decsas yn rhoi darlith yn Abertawe ar ddefnydd adrodd storïau mewn gofal iechyd academaidd.

Mae Dr Bernard Robin yn gweithio ym Mhrifysgol Houston, un o'r sefydliadau sydd wrth galon partneriaeth strategol Prifysgol Abertawe â Thecsas, sy'n cynnwys Prifysgol A&M Tecsas, Prifysgol Rice a Sefydliad Ymchwil yr Ysbyty Methodistaidd.

Dr Bernard RobinCynhelir ei ddarlith ar ddydd Mawrth, 29 Gorffennaf am 1pm yn Ystafell Meistr a Addysgir y Coleg Meddygaeth, ar lawr cyntaf Adeilad Grove. Gweinir cinio ysgafn o 12:30pm.

Mae Dr Robin (yn y llun ar y chwith) wedi gweithio yng Ngholeg Addysg Prifysgol Houston er 1993. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys hyfforddiant technoleg gyfarwyddol ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon a gweinyddwyr addysgol; defnyddiau addysgol ffotograffiaeth ddigidol, fideo digidol ac adrodd storïau digidol; a defnyddio technoleg i gefnogi addysg yn y gwyddorau iechyd.

Gall gweithwyr meddygol proffesiynol i roi gwybodaeth i gleifion am glefydau a chyflyrau penodol; i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw; i roi llais i gleifion a goroeswyr rannu eu profiadau o drawma a gwella; ac i hyrwyddo rhaglenni addysg feddygol.

Mae'r Coleg Meddygaeth yn cydweithio'n agos â Choleg Addysg Prifysgol Houston, gydag academyddion Abertawe'n addysgu ar ei rhaglen Doethuriaeth mewn Arweinyddiaeth Broffesiynol, sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi arweinyddiaeth mewn lleoliadau gofal iechyd academaidd.

Yn ogystal, mae cydweithwyr o Brifysgol Houston wedi cyfrannu at ddatblygiad rhaglen debyg yn Abertawe, gyda Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg newydd ar gyfer swyddi iechyd, a lansiwyd gan y Coleg Meddygaeth ym mis Mehefin 2014.

Ym mis Mai 2014, ffurfiolodd Prifysgol Houston a Phrifysgol Abertawe eu partneriaeth drwy lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i hyrwyddo cydweithio ar ymchwil a symud staff a myfyrwyr rhwng y sefydliadau.