Darlithoedd Cyhoeddus yn y Gymuned AABO, mis Mawrth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith nesaf yn y gyfres o ddarlithoedd cymunedol am ddim a drefnir gan yr Adran Addysg Barhaus Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Iau 20 Mawrth.

Teitl: Dylan Thomas: dylanwad Abertawe ar ei waith a’i fywyd

Siaradwyr: Peter Richards, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Fluellen, a’r actores arobryn Claire Novelli.

Dyddiad: Dydd Iau, 20 Mawrth 2014

Amser: 6.00pm – 7.45pm

Lleoliad: Yr Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN.

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb.

Crynodeb o'r ddarlith:

Disgrifiodd Dylan Thomas ei dref enedigol, Abertawe fel: “...an ugly, lovely town...crawling, sprawling...by the side of a long and splendid curving shore. This sea-town was my world”.

Eleni, sef canmlwyddiant ei enedigaeth, fe fydd rhai o sefydlwyrCwmni Theatr Fluellen, Peter Richards a Claire Novelli, yn archwilio’r dylanwad cafodd Abertawe ar ei waith a’i fywyd.

I archebu lle, neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 602211 neu anfonwch e-bost at: adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd y lleoliad ei hun yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.