Cynulliad Blynyddol yn cydnabod camp gyfreithiol ddwyieithog

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd Dr Rachel Davies, a gyflawnodd ei doethuriaeth yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ei anrhydeddu yn ystod Cynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.

Dr Rachel DaviesMae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gorff cenedlaethol sy’n chwarae rhan allweddol wrth gynllunio, cefnogi a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ac ysgoloriaethau ym mhrifysgolion Cymru.

Cafodd 14 ohonynt eu cydnabod y llynedd yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yn Aberystwyth, ac eleni roedd y Coleg yn falch iawn o groesawu saith arall i’r Cynulliad yng Nghaerfyrddin lle wnaethant dderbyn tystysgrif gan Gadeirydd y Coleg Cymraeg, Yr Athro R. Merfyn Jones.

Cychwynnodd Dr Davies ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe yn 2003 wrth ddilyn gradd BA Cymraeg, cyn astudio Diploma ôl-raddedig yn y Gyfraith yn 2006. Aeth yn ei blaen i wneud doethuriaeth yn y Gyfraith yn 2007 o dan oruchwyliaeth yr Athro Gwynedd Parry, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Hywel Dda ac Athro Cyfraith a Hanes Cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe.

Prif amcan ei thraethawd oedd pwyso a mesur y ddadl dros gyflwyno system gyfreithiol ddwyieithog yng Nghymru. Aeth ati i geisio diffinio beth yn union a olygir gan y term ‘system gyfreithiol ddwyieithog’ a chanolbwyntio ar y drefn yng Nghanada er mwyn canfod unrhyw wersi gwerthfawr y gellir eu cymhwyso yng Nghymru.

Meddai Dr Davies: “Pleser oedd bod yn rhan o gynulliad blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni, a hynny yng nghwmni cynifer o bobl blaenllaw y byd Addysg Uwch. Roedd hi’n noson lwyddiannus iawn ac yn gyfle i ddathlu’r gwaith da y mae’r Coleg Cymraeg yn ei wneud er mwyn sicrhau Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.

“Da oedd cael cyfle i gwrdd â rhai o’m cyd-ddeiliaid ysgoloriaeth, sydd erbyn hyn yn ddarlithwyr brwdfrydig, a rhai o’m tiwtoriaid o Brifysgol Abertawe. Diolch iddyn nhw am eu cyngor a’u cymorth tra roeddwn yn astudio yno”.

Mae Dr Davies bellach yn gwneud defnydd o’i hymchwil yn ei gwaith bob dydd, a hynny fel cyfieithydd gyda Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn cynnwys cyfieithu cyfreithiol, sy’n golygu ei bod hi’n cyfuno ei dawn ieithyddol a’i harbenigedd ym maes y gyfraith.

Yn dilyn y Cynulliad Blynyddol, meddai Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ‘‘Braint oedd cydnabod llwyddiant y myfyrwyr yn ein Cynulliad Blynyddol eleni. Maent oll wedi rhagori yn eu meysydd ymchwil a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol”.

Llun: Rachel Davies yn derbyn tystysgrif gan Gadeirydd y Coleg Cymraeg, Yr Athro R. Merfyn Jones.