Clod i Brifysgol Abertawe am arloesi cymorth i fyfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill clod gan y Comisiwn Ewropeaidd am gyflwyno system gofnodion arloesol sy'n cynnig gwasanaeth gwell i fyfyrwyr a chyflogwyr posib.

Mae'n un o ddwy brifysgol yn unig yn yr UE sydd wedi ennill y Label Atodiad Diploma am gyflwyno fersiwn electronig o'r Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR).

Meddai Cofrestrydd Academaidd Prifysgol Abertawe, Huw Morris, "Mae hwn yn gydnabyddiaeth ffurfiol gan y Comisiwn Ewropeaidd am ein gwaith i hyrwyddo cyflogadwyedd ein graddedigion. Gellir sicrhau cyflogwyr a myfyrwyr bod y cofnod electronig, sy'n amlinellu cyflawniadau academaidd a pherthynol myfyrwyr, yn bodloni'r safonau rhyngwladol uchaf.

"Mae'r ffaith mai'r Brifysgol yw un o ddwy brifysgol yn unig ledled Ewrop, a'r unig un yn y DU, sydd wedi ennill y gydnabyddiaeth hon am ei fersiwn electronig yn gyffelyb â Dinas Abertawe yn cyrraedd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr!"

Meddai'r Athro Syr Bob Burgess, Is-ganghellor Prifysgol CaerlÅ·r, a arweiniodd y gwaith i ddatblygu a rhoi HEAR ar waith ar draws addysg uwch yn y DU, "Dyma newyddion gwych, nid yn unig i Brifysgol Abertawe, ond i'r sector cyfan."

"Mae’n cadarnhau y gall HEAR, mewn fformat electronig, fodloni'r safonau caeth sy'n ofynnol ar gyfer y Label Atodiad Diploma. Bydd y nifer mawr o sefydliadau sydd bellach yn datblygu ac yn cyflwyno HEAR, hyd yn oed os nad ydynt yn ceisio cydnabyddiaeth Label Atodiad Diploma, yn hapusach o wybod am y llwyddiant hwn yn cydnabod derbynioldeb HEAR fel amrywiad y DU ar yr Atodiad Diploma."

Mae'r fersiwn electronig hon o HEAR yn caniatáu i'r Brifysgol gadw cofnodion ar-lein o gyflawniadau sy'n bwysig i gyflogwyr, nid llwyddiannau mewn arholiadau yn unig, megis lleoliadau gwaith, gwirfoddoli a medrusrwydd chwaraeon.

Mae ar fformat ar-lein a gydnabyddir ar draws yr UE, a fydd yn ei gwneud hi'n haws i fyfyrwyr Abertawe ddod o hyd i swyddi dramor neu i barhau â'u hastudiaethau yma.

Meddai Cristina Camaiani, ymgynghorydd prosiect Asiantaeth Weithredol Addysg, Clyweled a Diwylliant (EACEA) y Comisiwn Ewropeaidd, "Mae'r Brifysgol yn arwain y ffordd yn Ewrop."

Meddai Mr Morris, "Bydd e-HEAR yn profi i fod yn amhrisiadwy. Gall cyflogwyr chwilio drwy adran ddienw'r gronfa ddata i ddod o hyd i raddedigion posib ar gyfer cyfweliad. Mae ganddo hefyd y potensial i helpu ymchwilwyr i ddod o hyd i fyfyrwyr ôl-raddedig sydd â'r arbenigedd cywir i'w helpu â phrosiectau ymchwil penodol.

"Byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a gyflenwir gan gyflogwyr i ddarganfod mwy am y math o sgiliau y mae eu hangen ar weithwyr i wirio a ydym yn darparu cyrsiau perthnasol.

"Roedd hon yn ymdrech tîm cyfan ar draws y Brifysgol, yn cynnwys cydweithwyr o amrywiaeth o adrannau."

O ganlyniad i'r llwyddiant hwn, gofynnwyd i Mr Morris annerch fforwm cenedlaethol i'r Academi Addysg Uwch (HEA), y sefydliad sy'n rheoli HEAR ar ran y sector.

Meddai'r Athro Stephanie Marshall, Prif Weithredwr HEA, "Mae'n bleser gen i longyfarch y Brifysgol. Mae ei chyflawniad yn garreg filltir sylweddol yn y ffordd y mae sector addysg uwch y DU yn rhyngweithio â mentrau Ewropeaidd.

"Drwy waith arloesol Huw Morris a'i gydweithwyr, mae Prifysgol Abertawe bellach yn fodel arfer gorau, gan ddarparu gwasanaeth a fydd yn rhoi mantais ychwanegol i'w graddedigion ar draws Ewrop."

Mae'r HEAR electronig yn ffordd arall y mae Prifysgol Abertawe'n gwella cyflogadwyedd ei myfyrwyr ac yn annog iddynt astudio mewn gwledydd gwahanol.

Meddai Pauline McDonald, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol, "Mae Abertawe'n cynhyrchu graddedigion gwych gyda hanes cadarnhaol o ran cyflogaeth. Bydd myfyrwyr yn y dyfodol yn elwa hyd yn oed mwy o'u profiadau dysgu drwy gael yr e-HEAR gwell.

"Bydd yr adroddiad cyflawniad arloesol hwn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i gyflogwyr am amrywiaeth eang o weithgareddau myfyrwyr sy'n gwella'u cyflogadwyedd."

Mae'r HEAR electronig yn gweithio gan ddefnyddio datrysiad Gradintel Tribal, system feddalwedd a ddatblygwyd i gyd-fynd  gofynion y Brifysgol y gellir ei diweddaru'n haws na'r hen ddiploma papur.

Ychwanega John Bolland, Arweinydd Cynnyrch Gradintel yn Tribal, "Rydym wedi bod yn bartner i Brifysgol Abertawe er 2009, gan weithio gyda nhw i ddarparu HEAR drwy blatfform Gradintel Tribal ac ar brosiectau Porth Cyflogaeth.

"Rydym yn hynod falch bod y Brifysgol wedi ennill cydnabyddiaeth ffurfiol gan y Comisiwn Ewropeaidd am e-HEAR, ac y bydd yn helpu i arwain y ffordd i brifysgolion eraill sydd am wneud y gorau o'r cyfleoedd a gynigir gan yr Atodiad Diploma Ewropeaidd electronig."