Clinigau Cyngor ar Dreth a TAW ar gyfer BBaChau a busnesau newydd y gwyddorau bywyd a TGCh

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Digwyddiadau a drefnwyd gan Ddeorfa Rithwir Genedlaethol (NVI) Cymru, ehi2, Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe.


Dyddiad: Dydd Iau 2 Hydref / Dydd Iau 9 Hydref 2014

Amser: 1pm-4pm

Lleoliad: ILS 2, Prifysgol Abertawe

Cost: Am ddim


A yw meddwl am ffurflen dreth a TAW yn rhoi pen tost i chi? A yw beth y gallwch ei hawlio a beth na allwch ei hawlio yn eich drysu?

Bydd y sesiynau cyfrifeg un i un hyn gan NVI Cymru'n rhoi cyngor ac arweiniad am ddim i'ch busnes ar ofynion treth, TAW a Thalu Wrth Ennill (PAYE).

Gall y sesiwn gynnig cyngor ar amrywiaeth eang o faterion treth, gan gynnwys:

  • Dechrau busnes
  • Treth hunangyflogaeth
  • Talu Wrth Ennill
  • Treth gyflogaeth
  • Ffurflen dreth
  • Corffori busnes – manteision o ran treth
  • Opsiynau TAW busnesau llai

Cynhelir y clinig cyngor hwn ar gyfer BBaChau a busnesau newydd y gwyddorau bywyd a TGCh gan Alison Vickers o Bevan & Buckland (Cyfrifwyr Siartredig).

Mae Alison yn bartner archwilio ac yn gofalu am ystod eang o gleientiaid BBaCh, gan eu helpu i leihau risgiau a chwilio am gyfleoedd i wella'u systemau a'u proffidioldeb.