Canolfan Loeren Newydd i adolygu strategaethau hunanladdiad a hunan-newid

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd academyddion clinigol o Brifysgol Abertawe’n sefydlu canolfan loeren newydd a fydd yn casglu, yn gwerthuso ac yn dosbarthu adolygiadau ar effeithiau ymyriadau a strategaethau atal ar gyfer pobl sydd mewn perygl o hunanladdiad a hunan-niwed.

Keith Lloyd, Anne John & Prof Keith Hawton

Bydd y ganolfan loeren yn ffurfio rhan o Grŵp Adolygu Iselder, Gorbryder a Niwrosis Cydweithrediad Cochrane (CCDAN), a chaiff ei lansio yng Ngweithdy Ynysoedd Prydain ar Hunanladdiad a Hunan-Niwed yn Rhydychen yr wythnos hon. Arweinir y ganolfan loeren newydd gan Yr Athro Keith Lloyd a’r Athro Cyswllt Ann John o’r Coleg Meddygaeth.

Mae Grŵp Iselder, Gorbryder a Niwrosis Cochrane (CCDAN), a sefydlwyd ym 1996, yn gyfrifol am baratoi adolygiadau Cochrane  sy’n ymdrin ag ystod eang o faterion iechyd meddwl gan gynnwys anhwylderau sy’n effeithio ar dymer; anhwylderau gorbryder, anhwylderau somatofform ac anhwylderau bwyta. Mae cwmpas CCDAN hefyd yn cynnwys problemau o arwyddocâd clinigol megis hunan-niwed bwriadol ac ymgeisiau hunanladdiad.

Bydd y grŵp lloeren newydd ym Mhrifysgol Abertawe’n  canolbwyntio ar y materion allweddol hyn:-

  • Adnabod adolygiadau blaenoriaeth uchel mewn atal ac ymyriadau hunanladdiad a hunan-niwed 
  • Cynhyrchu a dosbarthu adolygiadau blaenoriaeth uchel sy’n berthnasol i’r maes
  • Troi’r wybodaeth hon yn bolisi
  • Cynyddu’r gallu’r i ymgymryd ag adolygiadau.

Meddai’r Athro Keith Lloyd, Pennaeth y Coleg Meddygaeth: “Rwyf wrth fy modd y bydd y Coleg Meddygaeth yn gartref i’r ganolfan loeren hon yn rhan o gydweithrediad Cochrane byd-enwog sydd â’r genhadaeth o hyrwyddo gwneud penderfyniadau iechyd a seilir ar dystiolaeth.’

Meddai Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru: “Mae’n hanfodol ein bod oll yn cydweithio er mwyn deall hunanladdiad yn well a’r ffyrdd gorau o’i leihau. Dyna pam fy mod mor falch bod Prifysgol Abertawe’n sefydlu’r ganolfan loeren hon. Mae’r Samariaid yn gwerthfawrogi’n partneriaethau gyda sefydliadau academaidd yng Nghymru a bydd y ganolfan newydd hon yn cyfrannu ymchwil werthfawr ac ymwybyddiaeth well o strategaethau atal hunanladdiad.”