Cadair Athro Prifysgol i brif nyrs Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Rory Farrelly, Cyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad Cleifion wedi ei benodi yn Athro Nyrsio er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Mr Farrelly (isod), a ymunodd â’r bwrdd iechyd y llynedd o GIG yr Alban, bod ei benodiad yn fraint ac yn anrhydedd. Ychwanegodd:

Rory Farrelly ABMU“Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gysylltiad hir â Phrifysgol Abertawe ac rwy'n edrych ymlaen at atgyfnerthu’r berthynas honno ymhellach drwy gyfrannu at y cyfleoedd ardderchog mae’r brifysgol eisoes yn cynnig i nyrsys a bydwragedd fel gweithwyr proffesiynol. Mae gen i ymrwymiad cryf i weithio gyda theuluoedd a gofalwyr i ddarparu gofal sydd yn canolbwyntio ar y claf.”

Profiad sylweddol

Meddai’r Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Mae Rory wedi dod ag egni, brwdfrydedd a phrofiad sylweddol i wella'r berthynas rhwng cydweithwyr nyrsio a bydwreigiaeth o fewn y Coleg. Ers iddo gyrraedd mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol er mwyn sicrhau bod unigolion sydd yn newydd i’r proffesiwn yn cael eu hysbrydoli i ddatblygu a chymhwyso'r rhinweddau a gwerthoedd proffesiynol angenrheidiol – a hynny o ddiwrnod cyntaf eu rhaglenni addysgol; mae hynny’n rhywbeth fydd yn para am weddill eu gyrfaoedd.

“Rydym yn dymuno’n dda i’r Athro Farrelly yn ei rôl newydd, ac edrychwn ymlaen at gydweithio ag ef yn y dyfodol.”

Meddai’r Athro Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: “Rwy'n falch iawn bod Rory wedi cael ei benodi fel Athro Anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe. Mae’r penodiad hwn gan y brifysgol yn gydnabyddiaeth o'i sgiliau a’i brofiad academaidd blaenorol, yn ogystal â chydnabyddiaeth yr arweinyddiaeth ddeinamig a ddaeth i’w rôl fel Cyfarwyddwr Nyrsio.”

Ymrwymiad i addysg

Meddai Paul Roberts, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: “Ein nod yw hyrwyddo safonau uchaf o arferion proffesiynol ac ymrwymiad i addysg ac arloesi. Mae penodiad Rory yn tanlinellu’r ymrwymiad hwn yn ogystal â'i gyfraniad personol.”

Hyfforddodd Mr Farrelly i fod yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig yn Essex, cyn symud i weithio yn Ysbyty Plant Evelina, Llundain.

Ar ôl nifer o rolau rheoli nyrsys ar draws y GIG yn Lloegr a'r Alban, yn ogystal â gweithio fel cynghorydd i Brif Swyddog Nyrsio'r Alban ar Nyrsio Plant a Phobl Ifanc, aeth yn ei flaen i fod yn Gyfarwyddwr Nyrsio yn Is-adran Gwasanaethau Difrifol GIG Glasgow a Clyde.