Cable yn cyhoeddi £30 miliwn ar gyfer Ymchwil ar Ddefnyddiau Uwch a Gwerthuso Anninistriol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd ymchwil newydd a fydd yn gwella diogelwch ac effeithlonrwydd tyrbinau nwy, traciau rheilffyrdd, piblinellau tanwydd ac isadeiledd pwysig arall yn derbyn hwb heddiw pan fydd buddsoddiad newydd gwerth £30 miliwn ar y cyd rhwng y llywodraeth a diwydiant yn cael ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwydiant y Gwir Anrhydeddus Vince Cable AS.

Bydd y ddau becyn ymchwil newydd yn:

-        datblygu defnyddiau uwch megis aloeon perfformiad uchel i’w defnyddio mewn diwydiannau awyrofod i ddatblygu ymhellach effeithlonrwydd, diogelwch a lefelau sŵn tyrbinau nwy

-        ymchwilio i ddulliau newydd a gwell o werthuso anninistriol i wella diogelwch a hirhoedledd seilwaith hanfodol y DU ac i gefnogi a galluogi gweithgynhyrchu gwerth uchel ar draws sectorau diwydiant pwysig yn y DU.   

Wrth siarad yn y digwyddiad  Cyllid Cenhadaeth ar gyfer Arloesi  yn Nhŷ’r Cyffredin, meddai’r Ysgrifennydd dros Fusnes Vince Cable: “Mae’r partneriaethau newydd hyn sy’n werth £30 miliwn yn fuddsoddiad sylweddol yn natblygiad defnyddiau uwch i gefnogi awyrofod a gweithgynhyrchu gwerth uchel ar draws y DU. Mae’r cydweithrediadau rhwng prifysgolion a busnesau, gan gynnwys cwmnïau megis Rolls-Royce, Tata Steel a GKN yn enghraifft wych o sut y mae’n Strategaeth Ddiwydiannol yn rhoi’r hyder i fusnesau fuddsoddi a sicrhau economi gryfach syn fwy cytbwys.”

Meddai’r Athro Philip Nelson, Prif Weithredwr EPSRC: “Mae’r buddsoddiadau hyn yn  dangos pa mor werthfawr y gall partneriaethau hirdymor rhwng diwydiant a chynghorau ymchwil fod. Yn yr achos hwn bydd darparu gwell dealltwriaeth o ddefnyddiau’n arwain at effeithlonrwydd mewn cynhyrchu, cynnal a chadw ac arbedion o ran costau a bydd hefyd yn helpu wrth gynnal cofnod diogelwch delfrydol. Bydd EPSRC yn parhau i sefydlu cydweithrediadau o’r fath er mwyn gwneud y DU y lle gorau ar gyfer ymchwil ac arloesi.”

Meddai’r Athro Tony Dunhill, Cymrawd Cyswllt NDT: “Mae Rolls-Royce wrth ei fodd bod yn gyd-fuddsoddwr yn y ddwy Bartneriaeth Strategol hyn, Systemau Metalig Strwythurol ar gyfer Tyrbinau Nwy Uwch a Phrofion Anninistriol. Mae’r galw cynyddol am ein cynhyrchion, ynghyd â’r amgylcheddau eithafol y maent yn gweithredu ynddynt, yn golygu ei bod yn angenrheidiol bod ein busnes yn buddsoddi mewn sgiliau a gwybodaeth mewn defnyddiau uwch a Phrofion Anninistriol.” 

Y Bartneriaeth Strategol mewn Systemau Metalig Strwythurol ar gyfer Cymwysiadau Tyrbinau Nwy Uwch yw’r cam nesaf mewn partneriaeth 10 mlynedd rhwng Rolls-Royce a’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC). Bydd yn datblygu defnyddiau uwch i leihau’r defnydd o danwyddau ac i leihau sŵn a chynyddu effeithlonrwydd awyrennau.

Bydd y rhaglen yn ymwneud ag ymchwilwyr o brifysgolion Birmingham, Caergrawnt, a Phrifysgol Abertawe (sydd hefyd yn bartneriaid cyllido craidd) yn ogystal â Manceinion, Rhydychen, Sheffield a Choleg Imperial Llundain, yn ogystal â phartneriaid diwydiannol megis TWI, Timet a Tata Steel. Caiff ei hariannu gan gyfraniad o £8 miliwn gan EPSRC a £12 miliwn mewn arian a chymorth mewn nwyddau gan Rolls-Royce.

Mae’r Bartneriaeth Strategol yn unigryw gan ei bod yn cyfuno ymchwil ôl-ddoethurol benodol gyda rhaglen ymchwil ôl-raddedig hyblyg. Mae hyn yn galluogi’r rhaglen i ddefnyddio ymchwil sylfaenol a data er budd sector awyrofod y DU yn ogystal â chynhyrchu 200 o beirianwyr tra hyfforddedig sy’n ennill PhD neu EngD.  Mae hyn yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â materion a godwyd mewn adroddiad diweddar gan y BIS sy’n tynnu sylw at y bylchau mewn sgiliau yn y sector (adroddiad BIS ‘Lifting Off: Implementing the Strategic Vision for UK Aerospace’, 18 Mawrth 2013)

Mae Canolfan Ymchwil y DU mewn Gwerthuso Anninistriol  yn gonsortiwm a arweinir gan Goleg Imperial Llundain ac mae’n ymwneud â phrifysgolion Bryste, Manceinion, Nottingham, Strathclyde a Warwick. Bydd yn cynnwys dros 40 o gwmnïau ar draws sectorau diwydiant mawr gan gynnwys awyrofod, niwclear, ac olew a nwy, gan ddatblygu offer a thechnegau i ganfod diffygion ac ymestyn oes seilwaith hanfodol y DU a’i atal rhag methu, megis piblinellau, gorsafoedd pŵer ac awyrennau.

Ariennir y Ganolfan gan grant gwerth £5.4 miliwn dros chwe blynedd gan EPSRC a bydd partneriaid diwydiannol y Gymdeithas Ymchwil NDE (NDEvR) yn rhoi arian cyfatebol o £5.4 miliwn mewn arian ac mewn nwyddau trwy’i Phartneriaeth Strategol ei hun gydag EPSRC.

Mae Gwerthuso Anninistriol yn ymwneud â defnyddio technolegau synhwyro a delweddu i asesu cyflwr cyfansoddion a strwythurau mewn llawer o sefyllfaoedd, o weithgynhyrchu a thrwy gydol eu hoes gwasanaeth.  

Amlinellir effaith Profion Anninistriol (NDT) ar feysydd technoleg blaenoriaethol a galluoedd Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel y DU yn  A Landscape for the Future of NDT in the UK Economy, sy’n gyhoeddiad gan y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth.

Meddai’r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘Bydd buddsoddiad Rolls Royce ac EPSRC ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â’i phrif bartneriaid strategol sef Prifysgolion Caergrawnt a Birmingham, yn gwella’n fawr allu’r DU i gystadlu yn y sectorau Awyrofod a Gweithgynhyrchu Uwch ehangach. Mae’r rhain yn sectorau o bwys mawr i economi Cymru, gyda chlystyrau yng Ngogledd-ddwyrain a De Cymru. Bydd ymchwil Abertawe ar ddefnyddiau uwch sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang, ynghyd â’r hyfforddiant y mae’n ei roi i beirianwyr lefel uchel, yn cefnogi trosglwyddo gwybodaeth ac yn helpu wrth yrru cynhyrchiant gweithgynhyrchu a thwf economaidd yng Nghymru a thu hwnt.’