Bydd Gwyddoniaeth Data yn ILS yn casglu arbenigedd Gwybodeg Iechyd at ei gilydd o dan un to

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe bellach wedi dechrau gwaith adeiladu ar Adeilad Gwyddoniaeth Data pwrpasol newydd sbon gwerth £8 miliwn ar Gampws Parc Singleton fel rhan o'i chynlluniau datblygu campws uchelgeisiol. Enw'r adeilad newydd fydd Gwyddoniaeth Data yn ILS.

Data Science @ ILSDisgwylir y bydd Gwyddoniaeth Data yn ILS, a gaiff ei ychwanegu at adeiladau 1 a 2 Sefydliad Gwyddor Bywyd y Coleg Meddygaeth, yn agor yn haf 2015, a bydd yn cynnwys Sefydliad Farr ar gyfer Ymchwil Gwybodeg Iechyd gwerth £5 miliwn, Canolfan Gwella Iechyd y Boblogaeth trwy Ymchwilio Cofnodion Electronig (CIPHER) gwerth £4.3 miliwn a'r Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADRC Wales) newydd gwerth £8 miliwn.

Bydd y cyfleuster ymchwil newydd Gwyddoniaeth Data yn ILS, sy'n 2,900m² o faint, yn parhau â'r prosesau cynllunio ac adeiladu arloesol a ddefnyddir yn ILS1 a 2, a bydd y Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) yn ei ardystio'n Rhagorol, gan ychwanegu at ymrwymiad y Brifysgol i ystâd gynaliadwy.

Arweinir Gwyddoniaeth Data yn ILS gan yr Athro Ronan Lyons a'r Athro David Ford o'r Sefydliad Gwyddor Bywyd, y Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe. Gweledigaeth Gwyddoniaeth Data yn ILS yw creu canolfan o safon fyd-eang mewn data gweinyddol ac ymchwil, arloesedd a hyfforddiant e-iechyd, a datblygu drwy ein cyswllt data a chyfleusterau mynediad data pwerus a chadarn o'r radd flaenaf.

Meddai'r Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr Cyngor Ymchwil Meddygol Sefydliad Farr Ymchwil Gwybodeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae hwn yn amser gwych i Abertawe ac i Gymru. Rwy'n hynod falch bod y Cyngor Ymchwil Meddygol a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi cydnabod ansawdd yr ymchwil a gynhelir yma a'u bod wedi penderfynu buddsoddi'n sylweddol yn yr isadeiledd i gefnogi ein tîm sy'n tyfu'n gyflym. Bydd yr adeilad newydd yn ferw o arloesedd, gan ganiatáu i ymchwilwyr a staff y GIG a diwydiannau i weithio gyda'i gilydd ar wyddoniaeth sydd ar flaen y gad. Bydd y cydweithredu hyn hefyd yn creu datrysiadau gwybodeg i danategu darpariaeth gwasanaethau a thriniaethau gwell ac sydd wedi'u targedu, a dylai fod o fantais uniongyrchol i lawer o gleifion y GIG."

Meddai'r Athro David Ford, Cyfarwyddwr ADRC Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Abertawe: "Bydd Gwyddoniaeth Data yn ILS yn dod â thair Canolfan Ragoriaeth at ei gilydd o dan un to, gan alluogi ymchwilwyr i gydweithio i ryddhau potensial data graddfa fawr i gynnal ymchwil newydd, pwerus."

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe: "Bydd gwaith Gwyddoniaeth Data yn ILS yn ganolog i weithgarwch ymchwil y Coleg Meddygaeth yn y dyfodol, gan roi Abertawe ar y map. Dylid llongyfarch yr Athro Lyons a'r Athro Ford a'u timau ar eu cyflawniad ardderchog wrth sicrhau'r datblygiadau gwybodeg a ariennir gan y cyngor ymchwil yma yn Abertawe."

Mae cynlluniau'r Brifysgol i drawsffurfio'r Campws Parc Singleton presennol yn mynd law yn llaw â chreu Campws newydd y Bae, gan greu lle ar gyfer trawsffurfiad dramatig a fydd yn gwella profiad y myfyrwyr a chyfleusterau ymchwil ar draws y ddau safle yn fawr.

Am ragor o wybodaeth am Raglen Ailddatblygu'r Campws Prifysgol Abertawe, ewch i www.swansea.ac.uk/cy/datblygiadau-campws.