Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod morloi bach llwyd wedi dal ffurf o facteriwm Campylobacter, prif achos gastroenteritis, ac mae’n debygol bod y bacteriwm wedi dod o lygredd dynol.
Cafodd yr astudiaeth, a arweiniwyd gan ymchwilwyr o Sefydliad Ymchwil Moredun, Caeredin mewn cydweithrediad â’r Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe a’r Uned Ymchwil Mamaliaid Môr, Prifysgol Sant Andreas, ei chyhoeddi yn ddiweddar ym Molecular Ecology.
Llun: Morlo bach llwyd
Canfuwyd y bacteriwm mewn morloi llwyd a oedd yn bridio ar Ynys Mai, ynys yn Aber Gweryd yn agos i Gaeredin, yr Alban, sy’n un o’r llwythau morloi mwyaf ar arfordir y dwyrain.
Dangosodd y dadansoddiadau a wnaed mai achos tebygol yr haint oedd gweithgarwch dynol, gan gynnwys carthffosiaeth a gwastraff gan ffermio ac anifeiliaid, a oedd wedi heintio’r dŵr.
Awgrymodd y dystiolaeth hefyd fod y bacteriwm yn gysylltiedig â gastroenteritis mewn morloi llwyd.
Gwelir morloi llwyd yn aml ar arfordir Prydain ac maent yn un o’r prif ysglyfaethwyr yn y gadwyn fwyd yn nyfroedd y DU. Weithiau ystyrir mamaliaid morol yn “rhywogaethau sentinel”, sy’n golygu bod eu hiechyd a’u lles yn arwydd o gyflwr ein moroedd a bywyd morol yn gyffredinol.
Dyma’r astudiaeth gyntaf i arunigo’r rhywogaeth hon o facteriwm mewn morloi llwyd. Mewn pobl, adroddir mai Campylobacter yw’r prif fath o facteriwm i achosi gastroenteritis bacteriol ac o ganlyniad bob blwyddyn yn y DU ceir dros 500,000 o achosion cymunedol, 20,000 o gyfnodau yn yr ysbyty a 110 o farwolaethau. Fodd bynnag, ni wyddys llawer am y ffordd y caiff ei drosglwyddo i anifeiliaid gwyllt.
Astudiodd y tîm forloi llwyd newydd-anedig ac ifanc ar Ynys Mai. Roedd eu samplau’n cynnwys morloi bach byw a morloi bach a oedd wedi marw yn y gwyllt. Gwnaethant astudio tri chynefin bridio gwahanol: pyllau marwaidd creigiog, llethrau gwelltog mwdlyd a thraethau clogfeini llanw.
Gwnaeth yr ymchwil ganfod:
• bod bacteriwm Campylobacter jejuni yn bresennol mewn hanner o’r holl forloi bach yn y samplau: 70 allan o 140. (24 o’r 50 o forloi marw a 46 o’r 90 o forloi byw).
• Roedd y mwyafrif (79%) o’r samplau o forloi a gymerwyd wedi’u priodoli i ffynonellau dynol ac amaethyddol
• Roedd byw ar Ynys Mai am gyfnodau hirfaith yn gysylltiedig â chyfradd uwch o haint. Roedd cyfradd is ymhlith y morloi bach a adawodd yr ynys yn gynharach nag eraill am y tro cyntaf i fynd i’r môr. Roedd cyfraddau haint hefyd yn is mewn morloi bach a anwyd ar draeth clogfeini llanw’r ynys, ac mewn morloi bach byw a adawyd yn ddiymgeledd ac yr aethpwyd â hwy i ganolfan adsefydlu ar y tir mawr. Mae’r dosbarthiad hwn o haint yn dystiolaeth o heintio oherwydd datguddiad i lygryddion.
Llun: Bacteriwm campylobacter jejuni
Cydweithiodd yr Athro Samuel Sheppard a Dr Guillaume Meric o’r Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe â Dr Johanna Baily a Dr Mark Dagleish o Sefydliad Ymchwil Moredun, Caeredin a Dr Ailsa Hall o’r Sefydliad Ymchwil Mamaliaid Môr, Prifysgol Sant Andreas.
Meddai’r Athro Samuel Sheppard o Goleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe:
“Cafodd niferoedd mawr o forloi llwyd eu heintio gan fathau o Campylobacter sydd fel arfer yn gysylltiedig â haint dynol, nid y rhywogaeth a geir fel arfer mewn mamaliaid morol yn unig. Dangosodd y morloi a oedd wedi’u heintio symptomau sy’n gyson â gastro-enteritis - y gellid eu cymharu â’r symptomau a geir mewn pobl. Mae hyn yn drawiadol gan ei bod yn dangos y gallai’r pathogen dynol pwysig hwn fod yn lledaenu i rywogaethau bywyd gwyllt bregus lle na wyddys ei botensial fel clefyd.
Er i’r astudiaeth edrych ar forloi yn nyfroedd yr Alban, mae’n debygol y byddai morloi oddi ar arfordir Cymru, ac ar draws y DU, yn cael eu heffeithio mewn modd tebyg. Mae angen gwneud mwy o ymchwil i ganfod graddfa’r broblem.”
Meddai Dr Johanna Baily o Sefydliad Ymchwil Moredun:
“Mae’r canfyddiadau’n gyson â naill ai ffynhonnell gyffredin neu drosglwyddiad uniongyrchol o haint Campylobacter dynol a morloi llwyd. Maent yn codi pryderon am lygredd amgylcheddol gan facteria ysgarthol ar arfordiroedd Prydain, ac ymlediad dilynol pathogenau dynol i rywogaethau bywyd gwyllt morol sentinel.”
Meddai Dr Ailsa Hall, Cyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Mamaliaid Môr:
“Er mwyn i ni ddeall y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd cynnar a chyfraddau goroesi’r anifeiliaid hyn yn y pen draw, mae’n hanfodol i ni ganfod achosion yr haint a’r clefyd mewn morloi llwyd bach yn ystod y tymor bridio. Mae canlyniadau’r astudiaeth hon wedi dangos bod y cysylltiad rhwng iechyd mamaliaid morol o amgylch ein harfordir yn gysylltiedig yn agos â gweithgareddau pobl, ar y tir yn ogystal ag yn y cefnfor.”
- Dydd Mercher 7 Ionawr 2015 15.47 GMT
- Dydd Mercher 11 Medi 2019 10.17 BST
- Swyddfa Materion Cyhoeddus