Academydd o Abertawe'n ennill Gwobr Gwyddonydd Ifanc

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd, gwyddonydd ymchwil a datblygwr technolegau newydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill cystadleuaeth gref ar gyfer gwobr fawreddog EEMS (Cymdeithas Fwtagenig Amgylcheddol Ewrop), y Wobr Gwyddonydd Ifanc.

Dr George Johnson receives the EEMS awardCyflwynwyd y Wobr i'r Athro Cefnogol Gwenwyneg Enynnol, Dr George Johnson, sy'n cydnabod gwyddonwyr o dan 35 oed sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu maes, yn nhrydedd cyfarfod cyffredinol ar ddeugain EEMS ym Mhrifysgol Caerhirfryn neithiwr(9 Gorffennaf).

Mae Prifysgol Abertawe yn adnabyddus yn fyd-eang am Wenwyneg Enynnol, ac mae Dr Johnson a'i gydweithwyr yn y Grŵp Ymchwil Niwed DNA yn archwilio dulliau ac effeithiau manwl carsinogenau wrth fynd i'r afael â materion diwydiannol a chynghori ar safbwyntiau diogelwch y llywodraeth. Diddordeb Dr Johnson mewn ymchwil canser a'i waith i leihau datguddiad pobl i garsinogenau mewn bwyd, cynhyrchion fferyllol a'r amgylchoedd gwaith a chartref sydd wedi arwain at ei waith helaeth gydag asiantaethau'r llywodraeth a chwmnïau fferyllol ledled y byd.

Mae'n aelod llywio o Bwyllgor Technegol Gwenwyneg Enynnol (GTTC) Sefydliad Gwyddor Amgylcheddol ac Iechyd (HESI) y Sefydliad Gwyddor Bywyd Rhyngwladol (ILSI), sy'n darparu fforwm rhyngwladol ar gyfer cynyddu dealltwriaeth o faterion gwyddonol sy'n ymwneud ag iechyd dynol, gwenwyneg, asesu risg a'r amgylchedd. O ganlyniad i'w waith arweiniodd Dr Johnson a nifer o aelodau eraill y GTTC banel arbenigol yn y Gweithdy Gwenwyneg Enynnol Rhyngwladol ym Mrasil y llynedd, a thrwy hyn ac ymdrechion rhyngwladol yn y dyfodol, byddant yn gwneud cyfraniad mawr i lunio polisi rheoleiddio asesu risg iechyd yn y dyfodol.

Mae uchafbwyntiau o blith ei brosiectau cyfredol yn cynnwys gweithio gyda'r Fenter Cyffuriau ar gyfer Clefydau Anghofiedig (DNDI) a chwmni fferyllol Janssen ar broffil diogelwch cyffur i drin Afonddallineb ac Eliffantiasis yn Affrica. Mae hefyd yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau (FDA) yn UDA, ac mae wedi goruchwylio lleoliad ymchwil myfyrwyr yn ei Chanolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gwenwynegol.  Mae un prosiect mawr hefyd wedi dechrau gyda Health Canada i helpu i wella asesu risg iechyd ar y cyd â'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd y Cyhoedd a'r Amgylchedd (RIVM), ac mae prosiectau hefyd ar y gweill gydag Astra Zeneca, GlaxoSmithKline, Hoffman-La-Roche a llawer o gwmnïau byd-eang mawr a bach eraill.

Yn ogystal â'i waith yn arwain cydweithio rhyngwladol, mae Dr Johnson hefyd yn parhau i gydarwain y Grŵp Niwed DNA (grŵp gwenwyneg in vitro) yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd, mae’n addysgu cynlluniau gradd BSc Geneteg a Geneteg Feddygol, MSc Nanofeddygaeth, cynllun gradd Meddygaeth i Raddedigion, yn ogystal â'i rôl fel Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd ac Entrepreneuriaeth y Coleg Meddygaeth.

Dyfarnwyd Gwobr Gwyddonydd Ifanc UKEMS iddo yn 2012, yn 2013 daeth yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn 2014 daeth yn Wenwynegwr Cofrestredig Prydeinig ac Ewropeaidd.

Meddai Dr Johnson, "Mae'n anrhydedd derbyn y wobr hon, a diolchaf i UKEMS, y Grŵp Niwed DNA a'r Bwrdd Addysgu Geneteg ym Mhrifysgol Abertawe am eu gwaith ardderchog a'u cefnogaeth barhaus. Mae'r Sefydliad Gwyddor Bywyd yn lle gwych i weithio ynddo, ac rwy'n ffodus iawn gennyf restr hir o gydweithwyr a mentoriaid ledled y byd, felly hoffwn ddiolch iddyn nhw hefyd. Rwy'n hynod falch o'm gyrfa hyd yn hyn, ac mae byw yn Abertawe wedi caniatáu i mi fwynhau penwythnosau ar Benrhyn Gŵyr, gan ddysgu fy mhlant i syrffio, a pharagleidio'n achlysurol.”

Meddai’r Athro Keith Lloyd, Pennaeth y Coleg Meddygaeth, “Llongyfarchiadau i George, sy'n ymgorffori'r math o uchelgais a phenderfyniad sydd yma yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe i wneud gwahaniaeth.”