Y Gweinidog Cyllid yn dysgu sut y mae cyllid yr UE yn helpu pobl ifanc i greu dyfais uwch-dechnoleg newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mi wnaeth y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt ymweld ag un o brosiectau'r UE ym Mhrifysgol Abertawe sy'n helpu i ysbrydoli dros 4,500 o bobl ifanc ledled Cymru i ddyfeisio'r rhyfeddod mawr nesaf i greu cynnwrf ym maes cyfrifiadureg.

Mae Technocamps yn helpu i ddatgloi'r maes cyfrifiadureg a phynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) i bobl ifanc. Cynhaliodd weithdy roboteg ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer disgyblion Ysgol Dewi Sant, Sir Benfro.

Prifysgol Abertawe sy'n arwain Technocamps, gan gydweithio â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Morgannwg. Mae’r prosiect wedi cael cymorth ariannol gwerth £3.9 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Technocamps Jane Hutt visit

Yn ystod ei hymweliad, bu’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt yn sgwrsio â disgyblion Ysgol Dewi Sant i ddysgu mwy am eu dewisiadau a'u gobeithion o ran eu gyrfa yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog: "Rhoi'r sgiliau cywir i bobl ifanc sicrhau swyddi da yn yr 21ain ganrif yw un o flaenoriaethau ein Rhaglen Lywodraethu. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu buddsoddi cyllid yr UE i gefnogi ein nod o annog pobl ifanc i astudio cyfrifiadureg a phynciau STEM a fydd yn rhoi mwy o ddewisiadau iddynt o ran eu gyrfa yn y dyfodol.

Yn ogystal ag Ysgol Dewi Sant, mae llu o bobl ifanc o dros 50 o ysgolion ar draws yr ardal gydgyfeirio wedi elwa o'r prosiect gan gynnwys Alfie Hopkin o Lanelli. Mae gêm gyfrifiadurol Alfie ar gael yn yr Apple App Store. Helpodd y bachgen 14 oed o Bwll i ddylunio gêm Nadoligaidd o'r enw "Present Collect" tra oedd yn cymryd rhan yn un o weithdai Technocamps.

Ar ôl ychydig fân addasiadau, cyflwynodd y disgybl o Ysgol Glan-y-Môr y gêm i Apple — ac roedd wrth ei fodd pan ddysgodd fod Apple wedi ei derbyn.

Dywedodd Alfie: "Roedd cymryd rhan yn Technocamps yn brofiad gwych. Roedd yn gyfle i fi a'm ffrindiau ddysgu beth y mae datblygu gemau iOS (system weithredu iPhone) yn ei olygu a hyd yn oed gael cyfle i roi cynnig arni ein hunain. Byddwn i'n argymell i unrhyw un yn ei arddegau sydd â diddordeb mewn gemau cyfrifiadurol neu raglennu cyfrifiaduron roi cynnig arni. Roedd yn llawer o hwyl!"

Mae'r prosiect hefyd yn annog rhagor o ferched i ddysgu sgiliau a fydd yn rhoi cyfleoedd iddynt yn yr economi ddigidol, drwy gynnal cyfres o weithdai ‘Technocamps i ferched’ yn ystod gwyliau'r ysgol.

Cynhelir gweithdai a sesiynau hyfforddi dwys fel rhan o’r prosiect hefyd. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar raglennu, datblygu aps, roboteg ac adeiladu eich cyfrifiadur eich hunain. Anelir y gweithdai a'r sesiynau hyfforddi at bobl 16-19 oed.

Nid oedd Jamie Davies, un o gyn ddisgyblion Ysgol Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr, wedi penderfynu pa bwnc i'w astudio yn y brifysgol nac ar lwybr gyrfa. Aeth i nifer o weithdai rhaglennu Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â sesiwn hyfforddi deuddydd ar gyfer datblygu aps iPhone.

Dywedodd Jamie: "Helpodd y profiad hwn fi i benderfynu fy mod i am astudio cyfrifiadureg yn y brifysgol ond hefyd fy mod i am fod yn athro cyfrifiadureg."

Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe: "Rwy'n falch iawn bod cynifer o bobl ifanc yn elwa o'n prosiect. Mae'r unigolion a enwyd yn dangos sut y mae'r prosiect yn wir wedi effeithio ar benderfyniadau a dyheadau pobl ifanc i astudio neu i weithio ym maes cyfrifiadureg a STEM yn y dyfodol.