Y Clasuron mewn Cymunedau: Ieithoedd Hynafol o 2014 Ymlaen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Cyfadran y Clasuron ym Mhrifysgol Rhydychen, Prosiect Iris, a Choleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyhoeddi eu bod yn cychwyn prosiect cyffrous, a fydd yn rhedeg am ddwy flynedd, i hyrwyddo'r syniad o ddysgu Lladin neu Roeg mewn ysgolion cynradd ar draws y Deyrnas Unedig.

Sefydlwyd y prosiect Y Clasuron mewn Cymunedau mewn ymateb i'r diwygiadau i'r cwricwlwm cynradd sy'n cael eu rhoi ar waith yn Lloegr yn 2014; a bydd yn targedu ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig yn benodol.

Cynhelir cynhadledd agoriadol y prosiect, Y Clasuron mewn Cymunedau: Theori ac Ymarfer i ddatblygu Ymestyn Allan yn y Clasuron yn y 21ain Ganrif, yng Ngholeg Corpus Christi, Prifysgol Rhydychen, ar 20 Tachwedd 2013. Y siaradwr allweddol fydd yr Athro Edith Hall o Goleg y Brenin, Llundain.

Cynhelir wyth gweithdy yn sefydliadau Addysg Uwch ar draws y Deyrnas Unedig gan unigolion sy'n gweithio ar ddysgu Lladin a Groeg, gan gynnwys:

  • Barbara Bell, Minimus
  • Dr Lorna Robinson, Prosiect Iris
  • Dr Evelien Bracke, Prifysgol Abertawe
  • Dr Aisha Khan-Evans, Coleg y Brenin, Llundain
  • Dr Steve Hunt, Prifysgol Caergrawnt

Bydd y gweithdai'n darparu gwybodaeth am ddulliau, adnoddau, a chymorth, a byddant yn cynnwys sesiynau ymarferol. Bydd y gweithdai'n ceisio dod ag athrawon cynradd, uwchradd, ac Addysg Uwch at ei gilydd, gan hwyluso creu a datblygu cysylltiadau cynaliadwy.

Bydd ail ran y prosiect yn cychwyn ym mis Gorffennaf 2014, gan ffocysu ar ddarparu cymorth ymarferol parhaus i'r ysgolion sy'n penderfynu dysgu Lladin neu Roeg:

  • rhennir adnoddau trwy wefan Cydgymdeithas Athrawon y Clasuron 
  • trefnir cyfarfodydd fideo a gweithdai
  • bydd mentora ar gael
  • profir effaith dysgu'r ieithoedd ar sgiliau llythrennedd y disgyblion ac ar eu hymwybyddiaeth gyffredinol. 

Diweddglo'r prosiect fydd cynhadledd sy'n dod â chanfyddiadau'r prosiect at ei gilydd, ac a fydd yn trafod sut all y prosiect symud ymlaen ar ôl blwyddyn gyntaf y diwygiadau i'r cwricwlwm.

Mae'r prosiect yn awr yn gwahodd crynodebau o bapurau ar gyfer y Gynhadledd Undydd Agoriadol, a gynhelir yng Ngholeg Corpus Christi, Prifysgol Rhydychen, ar 30 Tachwedd 2013.


Mae'r prosiect yn diolch i 'Y Clasuron i Bawb', SSAT, a 'Llwybrau i Ieithoedd' am y cyngor a chymorth a gafwyd ganddynt wrth sefydlu'r prosiect. Mae arian ar gael i sefydlu'r prosiect, trwy garedigrwydd Cyfadran y Clasuron ym Mhrifysgol Rhydychen, a bwriedir codi rhagor o arian ar gyfer y prosiect yn y dyfodol.