Un o'r teulu... Cymru i gael cyfran o fuddsoddiad cyllido £64m Data Mawr ESRC

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd, yn un o bump sy'n derbyn arian yng ngham cyntaf buddsoddiad cyllido gwerth £64 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i gefnogi datblygu rhwydwaith ar draws y DU o ganolfannau arloesol i gryfhau mantais cystadleuol y DU mewn Data Mawr.

Neithiwr (Dydd Mercher, Hydref 9) cyhoeddwyd ffurfio'r Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol (ADRN) fydd yn ffurfio craidd teulu Big Data'r ESRC. Daeth y cyhoeddiad gany Gwir Anrhydeddus David Willetts AS, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth, yn ystod Darlith Goffa Mountbatten yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain.

Meddai Mr Willetts: "Bob dydd mae'r byd yn creu 2.5 cwintiliwn beit o ddata i werth dros 150,000 iPad o wybodaeth. Bydd grym cyfrifiaduron wrth ddadansoddi setiau data enfawr a chymysg yn trawsnewid gwyddoniaeth a diwydiant yn y DU a thrwy greu'r Rhwydwaith Data Mawr a'r ADRNau gobeithio y byddwn mewn lle da i gymryd mantais cystadleuol o'r dechnoleg wych hon."

Mae'r ADRN, ddaeth i fodolaeth ar 1 Hydref ac a fydd yn rhedeg am gyfnod cychwynnol o bum mlynedd, yn bartneriaeth rhwng adrannau'r Llywodraeth, cyllidwyr ymchwil, awdurdodau ystadegol cenedlaethol a'r gymuned ymchwil, fydd yn estyn ar draws y DU i hwyluso ymchwil sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol cysylltiedig sy'n cael ei gasglu fel mater o drefn.

Bydd yr ADRN yn cael ei arwain gan Brifysgolion Caeredin, Queen's Belfast, Southampton ac Abertawe gyda'r Gwasanaeth Data Gweinyddol (ADS) wedi'i leoli ym Mhrifysgol Essex. Gyda'i gilydd, bydd y pedair canolfan a'r un gwasanaeth uchod yn elwa o becyn grantiau gwerth tua £34 miliwn.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Prif Weithredwr yr ESRC: "Rydym wrth ein bodd i fod wedi cymryd rhan mor flaengar yn natblygiad yr ADRN cenedlaethol, fydd yn cryfhau mantais y DU yn Data Mawr.

"Amcan craidd ADRN yw hwyluso cysylltedd data gweinyddol sy'n cael ei gasglu fel mater o drefn, gan felly symbylu cyfleoedd ar gyfer ymchwil a ffurfio polisïau'n arloesol.

"Bydd yn cynnig manteision i ymchwilwyr, llywodraeth, cymunedau lleol a'r cyhoedd - yn wir mae potensial am chwyldro yn ein gallu i ateb llu o gwestiynau oedd yn anhydrin cyn hyn."

David FordBydd yr ADRN Cymru £8 miliwn yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd, dan gyfarwyddyd yr Athro David Ford, Sefydliad Gwyddorau Bywyd, y Coleg Meddygol, Prifysgol Abertawe.

Meddai'r Athro David Ford: "Mae ADRN Cymru'n ddatblygiad hynod gyffrous. Bydd y Ganolfan newydd yn rhannu adeilad newydd sbon wedi ei godi'n bwrpasol ym Mhrifysgol Abertawe, wedi'i ddylunio'n benodol i ddarparu cartref i ADRN Cymru a'i chwaer Ganolfan - Sefydliad Farr y Cyngor Ymchwil Meddygol – y ddau'n gweithio gyda'i gilydd i ryddhau potensial data ar raddfa fawr i gynnal ymchwil newydd grymus. 

"Bydd ein harbenigedd blaenorol yn trafod a chysylltu data mawr, cymhleth a sensitif yn ddiogel yn sylfaen dda i ni wrth i ADRN Cymru gychwyn ar ei waith gyda Llywodraethau Cymru a'r DU i ddatgloi data newydd ac i gefnogi ymchwilwyr y DU."

Mae ADRN Cymru'n ganolfan newydd bwerus yn arbenigo mewn gwneud data gweinyddol ar draws y DU ar gael yn ddiogel ar gyfer ymchwil. Mae gan y Ganolfan dîm cryf, gyda phrofiad helaeth mewn cysylltedd data ac mewn ymchwil economaidd a chymdeithasol a bydd yn gweithio'n agos gyda Sefydliad Farr ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynyddu'n enfawr y cyfleoedd i ymchwil fod o fudd i bobl ac i gymdeithas.

Prif amcan ADRN Cymru yw creu canolfan ymchwil data gweinyddol o safon byd sy'n cael ei adnabod yn eang am ei allu i hygyrchu, cysylltu a defnyddio data'n ddiogel ar gyfer ymchwil o ansawdd uchel.

Bydd gwaith y Ganolfan yn cael ei danategu gan fframwaith llywodraethu cadarn. Golyga hyn y bydd yn ganolfan yn cadw at yr holl reolau, y cyfreithiau a'r rheoliadau sy'n berthnasol i ddefnyddio data, ac yn gosod llawer o safonau newydd, fel bod ei gwaith bob amser yn foesegol ac yn parchu hawliau a phreifatrwydd unigolion a sefydliadau.