Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn lansio cymdeithas mentergarwch newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Pwdinau iach blasus, dillad celfyddydol ffynci a gwasanaeth ar-lein i ddod o hyd i ystafell. Dyna ond ychydig o'r mentrau busnes cyffrous o eiddo myfyrwyr talentog Abertawe oedd i'w gweld pan lansiwyd cymdeithas mentergarwch newydd Undeb y Myfyrwyr.

Mae Cymdeithas Konetics yn ymuno â'r rhestr hir o ychydig dros 90 o gymdeithasau gwahanol a gefnogir gan fyfyrwyr yn y Brifysgol. Mae Konetics yn glwb mentergarwch newydd i fyfyrwyr, ac fe'i sefydlwyd gan ddau fyfyriwr y gyfraith yn eu hail flwyddyn a dau fyfyriwr rheoli busnes yn eu blwyddyn gyntaf.  Mae'n dod â myfyrwyr sydd eisoes yn cael hwyl yn sefydlu eu mentrau eu hunain a myfyrwyr a fyddai'n hoffi rhoi cynnig arni at ei gilydd.

Rodd y lansiad yn gyfle i fyfyrwyr rwydweithio â mentoriaid busnes, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, a sefydliadau allweddol sy'n darparu cymorth i entrepreneuriaid ifainc. Roedd y Farchnad yn cynnwys amrywiaeth o fusnesau myfyrwyr yn dangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau ar stondinau.

Roedd Azeem Bhatti'n dangos Goggi's Cuisine, sy'n cynhyrchu bwydydd arbennig Pacistanaidd. Ar hyn o bryd, mae modryb Azeem yn coginio'r prydau sbeislyd blasus ac yn eu gwerthu ar stondin marchnad, ond mae Azeem, sy'n astudio ar gyfer gradd Marchnata, am ei helpu i lunio cynllun busnes ac ehangu. Roedd Azeem yn rheoli bwyty ym Mhacistan, ac mae am sefydlu bwyty yng Nghymru.

Konetics launch jackets

Ymhlith y stondinwyr eraill oedd 'Fruit Dessert House' Jamine Lilei a'i phwdinau blasus iach; Siobhan Wright a Nanette Turkson yn dangos y siacedi denim Farsity hardd y maen nhw wedi'u cynhyrchu mewn cydweithrediad â siop elusen y Samariaid;  Appah Prince, sefydlydd RoomPaddy.com, sef gwasanaeth ar-lein i ddod o hyd i ystafell, sydd a thros fil o ystafelloedd ar ei lyfrau’n barod ledled y DU;  ac Andy Ryan ac Owen Bidder, myfyrwyr Cyfrifiadureg, sydd wedi datblygu app o'r enw 'What's That', sydd â thros 60 o loÿnnod byw yn ei fas data sy'n galluogi defnyddwyr i adnabod unrhyw löyn byw anghyffredin a chofnodi hynny ar y wefan. 

 

Konetics launch butterflies

 

Sefydlwyd Konetics yn sgil y diddordeb a ysgogwyd gan Syr Terry Matthews, entrepreneur a graddedig o Abertawe, pan ddaeth i'r Brifysgol y llynedd i lansio Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2013.  Hefyd, cyflwynodd £250 i bob tîm a dderbyniodd yr her i droi'r £250 yn elw o fewn 8 wythnos. Mae dau o'r mentrau a welwyd yn lansiad Konetics yn rownd derfynol y sialens menter.  Mae eu bysedd wedi'u croesi!

Mae gan Brifysgol Abertawe Academi Cyflogadwyedd sy'n gyfrifol am gefnogi a datblygu sgiliau mentergarwch myfyrwyr. Mae'r Academi'n datblygu ac yn hyrwyddo mentrau newydd, yn dangos arfer da ac yn darparu cyfleoedd a fydd yn galluogi myfyrwyr i wella sgiliau a chofnodi cyraeddiadau drwy ddefnyddio'r Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch. Mae hefyd yn gwahodd sefydliadau ac unigolion i gefnogi ein myfyrwyr trwy ddarparu cyfleoedd profiad gwaith perthnasol a diddorol, fel bod myfyrwyr yn dysgu i ymateb i, ac i addasu i, heriau, amgylchiadau a diwylliannau newydd. Mae'r Academi wedi penodi Cyfarwyddwyr Cyflogadwyedd ym mhob Coleg, sy'n arwain tîm a fydd yn helpu myfyrwyr ar bob lefel astudio i gyrraedd eu potensial - p'un ai y mae hynny drwy swydd, drwy fod yn hunangyflogedig neu drwy astudiaethau pellach.

Dywedodd Judith James, Rheolwr  Academi Gyflogadwyedd Abertawe:

"Dwi'n falch bod y myfyrwyr wedi sefydlu'r Gymdeithas newydd hon a fydd yn helpu i ddatblygu a chefnogi mentergarwch a mentro. Mae datblygu sgiliau mentergarwch yn bwysig i bob myfyriwr, y rhai sy'n mynd i weithio dros sefydliad arall yn ogystal â'r rhai sy'n sefydlu eu busnesau eu hunain, oherwydd bod cyflogwyr yn dweud wrthym fod angen staff creadigol ac arloesol arnynt. Dwi'n falch hefyd y daeth cymaint o'r bobl sy'n cefnogi datblygu mentrau newydd i'r lansiad i gynnig eu cymorth i'n myfyrwyr. Bydd myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn manteisio ar y cyfleoedd hyn i ddatblygu'r sgiliau hynny tra eu bod yn fyfyrwyr, i'w helpu nhw i baratoi at fyd gwaith."