Trafod Technoleg yng Ngŵyl Golwg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru wedi dod ynghyd â Golwg360.com i redeg rhaglen seminarau yng Ngŵyl Golwg – yr ŵyl a gynhelir yn Llanbedr Pont Steffan y penwythnos hwn i ddathlu 25ain pen-blwydd y cylchgrawn cyfrwng Cymraeg, Golwg.

Disgwylir y bydd y digwyddiad, a gynhelir ar gampws prifysgol, yn denu had at fil o bobl. Bydd gweithgareddau'n amrywio o gelfyddydau, crefftau ac adloniant i blant i gerddoriaeth, llenyddiaeth, technoleg a thrafodaethau.

Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn bartneriaeth rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, De Cymru a'r Drindod Dewi Sant. Cefnogir y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Dr Neal HarmanDywedodd Dr Neal Harman, Pennaeth Addysgu Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Cynghrair Meddalwedd Cymru: “Mae Gŵyl Golwg yn gyfle gwych i fynychwyr yr ŵyl i gwrdd â ffrindiau a chydweithwyr; meithrin dealltwriaeth o sut i elwa ar dechnoleg er lles personol a busnes; gwrando ar sgyrsiau diddorol sy'n ysgogi meddwl; ac yn llawn mor bwysig, mwynhau dysgu sgiliau newydd.”

Bydd y rhaglen seminarau yn cychwyn am hanner dydd, ddydd Sadwrn 7 Medi 2013; bydd sgyrsiau 1 awr a thrafodaethau panel. Cyflwynir pob seminar gan arbenigwr sydd wedi ymroddi i rannu gwybodaeth, sgiliau ac arferion da â chymuned o bobl o'r un anian.

Bydd y panel cyntaf, dan arweiniad Gareth Morlais, yn trafod hanfodion App llwyddiannus. Yn ymuno â Gareth, bydd Osian Evans, a greodd App Eisteddfod yr Urdd, a Dr Chris Price, o Brifysgol Aberystwyth, sydd wedi creu sawl App i ddysgwyr y Gymraeg.

Bydd Dylan Iorwerth, o Golwg, Dylan Lewis, o Clonc, a Sara Moseley, o Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd, yn trafod newyddion digidol Tra-lleol, a bydd Meic Parry, o Recordiau Lliwgar, Owain Schiavone, o'r Selar, a'r arbenigwr ar gyfryngau cymdeithasol, Rhodri ap Dyfrig, yn trafod hyrwyddo cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg yn ddigidol.

Bydd sgyrsiau yn cynnwys ‘ffilmio gan ddefnyddio ffonau symudol’ yng nghwmni Emma Meese; ‘Blogio’ gydag Elliw Gwawr; a'r ‘grefft o drydar trwy gynganeddu’ yng nghwmni'r bardd, Llion Jones.

Dywedodd Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg360.com: “Bydd rhaglen seminarau Cynghrair Meddalwedd Cymru, a gynhelir yn ystod Gŵyl Golwg, yn cynnig rhywbeth i bawb - o ddechreuwyr i'r sawl sy'n deal technoleg.”