The last man standing: How to take years off your life

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe'n gyfle i bawb ddod i gael gwybod mwy am feysydd newydd, cyffrous, a chyfredol yn y byd gwyddoniaeth mewn modd anffurfiol a difyr.

Teitl: The last man standing: How to take years off your life

Siaradwr: Dr Kelly Mackintosh, Prifysgol Abertawe

Dyddiad: Dydd Mercher 27ain Chwefror 2013 am

Amser: 7:30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb

Mae'n hysbys ers blynyddoedd bod gweithgarwch corfforol yn dod â llu o fanteision. Fodd bynnag, er gwaethaf hynny, nid yw llawer o bobl yn ddigon gweithgar i fanteisio ar y buddiannau cysylltiedig. Gyda'r holl gynnydd technolegol, mae ein hamgylcheddau'n esblygu i annog ffordd eisteddog o fyw: paham codi i newid y sianel ar y teledu pan nad oes angen gwneud mwy na symud bawd a gwasgu botwm?

Bydd y ddarlith hon yn trafod sut y gallwn annog pobl i godi o'r gadair a bod yn fwy gweithgar. Un cwestiwn sylfaenol yw sut mae mesur y fath ymddygiad; nid yw'n fater hawdd!

Efallai bod modd defnyddio'r un cynnydd technegol er mantais? Datgelir y cyfan.