Sêr ymchwil newydd Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae deunaw o ymchwilwyr sy'n adnabyddus yn fyd-eang wedi'u penodi'n Athrawon Ymchwil Nodedig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r penodiadau wedi'u gwasgaru ar draws y chwe Choleg academaidd i gyd a bydd yn cryfhau enw da'r Brifysgol ymhellach am ragoriaeth ymchwil wrth iddi geisio gwireddu ei huchelgais o fod yn un o 200 prifysgol gorau'r byd erbyn 2020.

Mae'r trefniadau newydd hyn yn adeiladu ar lwyddiant nifer o benodiadau ar y cyd gyda phrifysgolion tramor ym maes Mathemateg, y Gyfraith ac Entrepreneuriaeth.

Mae’r deunaw academydd dan sylw wedi’u recriwtio o ar draws y byd, gan gynnwys UDA, y Dwyrain Pell ac Ewrop. Maen nhw wedi'u lleoli yn rhai o sefydliadau mwyaf breintiedig y byd. Byddent yn treulio cyfran o'u hamser yn gweithio gyda chydweithwyr yn Abertawe i adeiladu ac i gryfhau cydweithrediadau ymchwil byd-eang ac i wella bywiogrwydd a chynaliadwyedd ein hamgylchedd ymchwil.

Mae'r academyddion sy'n dod i rannu eu harbenigedd ag Abertawe yn cynnwys yr ysgolhaig Saesneg Adnabyddus Maud Ellman, sy’n Athro ym Mhrifysgol Chicago ar hyn o bryd, y seicolegydd Perrine Ruby, ymchwilydd o Ganolfan Ymchwil Niwrowyddoniaeth Lyon yn Ffrainc a’r cyfreithiwr Joel Trachtman o Ysgol Cyfraith a Diplomyddiaeth Fletcher yn yr Unol Daleithiau. Ceir penodiadau hefyd i’r Coleg Peirianneg, gan gynnwys Andrew Barron, sydd ar hyn o bryd yn Athro mewn Cemeg ym Mhrifysgol Rice, Texas, tri phenodiad yn y Coleg Meddygaeth a thri yn y Coleg Gwyddoniaeth.

Meddai'r Athro Noel Thompson, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil:

“Mae'r academyddion hyn yn sêr rhyngwladol go iawn ac rydym wrth ein boddau eu bod am ddod i Brifysgol Abertawe a gweithio gyda'n cymunedau ymchwil.  Mae'r penodiadau hyn yn dangos ein hymrwymiad i ragoriaeth ymchwil a'n huchelgais byd-eang.”