Rhwyfwyr Abertawe'n barod ar gyfer wythfed Ras Gychod Farsity Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr wythfed Ras Gychod Farsity, rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd, yn cael ei chynnal y dydd Sadwrn hwn (Ebrill 20, 2013) ar yr Afon Taf yng Nghaerdydd.

Boat RaceWedi'i sefydlu yn 2006, mae'r ras gychod flynyddol yn gystadleuaeth rhwng myfyrwyr o ddwy Brifysgol rwyfo gorau Cymru wrth iddynt fynd yn erbyn ei gilydd am y teitl Pencampwyr Ras Gychod Farsity Cymru.

Bydd pedair ras rhwng wythawdau yn cael eu rhwyfo yn ystod y dydd, gan ddechrau gyda ras VIII Nofis y Menywod a ras VIII Nofis y Dynion (ar gyfer y rhai hynny yn eu blwyddyn rwyfo gyntaf) am 12.25pm ac 1:25 yn y drefn honno, gyda VIII Cyntaf y Menywod Hŷn am 2.25pm, ac yn gorffen gyda'r ras fawr rhwng VIII Cyntaf y Dynion Hŷn am 3:25pm.

Caiff y rasys eu rhwyfo ar rannau isaf Afon Taf, o Bont Ffordd Penarth i Fae Caerdydd, dros bellter o oddeutu dau gilometr. Mae'r mannau gorau i bobl wylio'r rasys yn cynnwys Pont ac Arglawdd Ffordd Clarence a'r llinell orffen ger Canolfan Channel View ar Jim Driscoll Way, Bae Caerdydd.

Meddai Kate Housby, Llywydd Clwb Rhwyfo Prifysgol Abertawe: "Mae'r gystadleuaeth rhwng y ddau glwb i fod yn Bencampwyr Ras Gychod Farsity Cymru'n ddwys - ac ni fydd hynny'n wahanol eleni. Mae'r naill glwb wedi bod yn ymarfer yn galed am hyn yn ystod y tymor ac mae'r ymdrech gan griwiau Abertawe wedi bod yn fwy nag erioed o'r blaen.

"Rydym yn ymwybodol o'r pwysau sy'n gysylltiedig ag ennill y Ras Gychod a heb os dyma fydd un o uchafbwyntiau ein blwyddyn - mae gennym pob bwriad o ddod â'r gwpan yn ôl i Abertawe.

"Mae Ras Gychod Cymru'n addo darparu diwrnod gwefreiddiol o rasio i gystadleuwyr ac i gynulleidfaoedd fel ei gilydd."

Mae Ras Gychod Farsity Cymru, a gefnogir gan Rwyfo Cymru (corff llywodraethu rhwyfo yng Nghymru), yn nodi dechrau gemau blynyddol Farsity Cymru. Bydd mwyafrif y cystadlaethau'n dechrau ar ddydd Mercher, Ebrill 24, gan gyrraedd uchafbwynt â Gêm Rygbi Farsity Cymru yn Stadiwm y Mileniwm am 7:30pm.