Prosiect Ymchwil Cymunedol Prifysgol Abertawe yn Dathlu Ennill Grant o Gronfa Treftadaeth y Lotri

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect o eiddo Prifysgol Abertawe sy'n ystyried hanes a threftadaeth cymunedau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol lleol wedi ennill grant o Gronfa Treftadaeth y Lotri.

Mae'r prosiect "Cymunedau Cysylltiedig: Researching the Industrial and Post-Industrial Communities of the Swansea Valley", a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, newydd dderbyn grant o £44,850 o'r Gronfa i gefnogi nifer o brosiectau hanes ac ymchwil cymunedol.

Arweinir y Rhaglen gan yr Athro Huw Bowen a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n rhan o'r rhaglen Cymunedau Cysylltiedig "Ymchwil dros Dreftadaeth Gymunedol", sydd hefyd yn cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil.

Bydd cynllun grant y Gronfa, sef "Ein Holl Straeon", yn cefnogi chwe phrosiect lleol, llawer ohonynt yn canolbwyntio ar hanes a threftadaeth cymunedau Cwm Tawe, gan ddod â buddion mawr ac effaith gadarnhaol i'r cymunedau lleol.

Un enghraifft yw prosiect o'r enw "Taith Hafod: Hanes Llafar" - dan adain cangen leol y Gymdeithas Hanesyddol - fydd yn creu llwybr digidol o gwmpas safle Whiterock yng Nglandŵr, ac a fydd yn defnyddio recordiadau hanes llafar i adrodd stori Gwaith Copr yr Hafod.

Bydd Ysgol Maesydderwen yn rhedeg prosiect o'r enw "Ymchwilio Hanes Mwyngloddio Cwm Tawe Uchaf" fydd yn dysgu plant ysgol lleol am dreftadaeth ac etifeddiaeth mwyngloddio eu cymuned. Bydd prosiect Canolfan Treftadaeth Clydach, sef "Hen Glydach" yn archwilio trawsnewid y pentref dros y degawdau, tra bydd y Gymdeithas Gydweithredol Tsieineaidd yn ymchwilio i hanes ymfudo Tsieineaidd yn Abertawe.

Mae cynllun arall yn dogfennu digwyddiadau hanesyddol pwysig, a chymeriadau blaenllaw lleol. Bydd Cymdeithas Hanes Treboeth yn gweithio gyda phlant ysgol lleol i ymchwilio i fywyd bardd enwog, sef Daniel James, a gyfansoddodd 'Calon Lân', er mwyn cynhyrchu animeiddiad o'i fywyd, a bydd y grŵp "Abertawe Eich Stori" yn cadw ffotograffau ac atgofion o orffennol Abertawe ar ffurf ddigidol.

Dymuna Cymunedau Cysylltiedig ddatblygu ymchwil cydweithredol fydd yn gwella, yn sylweddol, prosiect adfywio trefol mawr sy'n canolbwyntio ar Gwm Tawe. Arweinir y prosiect adfywio - Cu @ Abertawe - gan yr Athro Huw Bowen mewn partneriaeth â Dinas a Sir Abertawe.

Ym mis Rhagfyr 2011, cafodd becyn ariannu am y cyfnod cyntaf yn y swm o £542,000 oddi wrth Cadw - Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd i ddatblygu rhaglen o waith fydd yn rhoi bywyd newydd i dirlun a chymunedau Cwm Tawe Isaf, gyda'r nod o greu safle treftadaeth ddiwydiannol o'r radd flaenaf.

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Treftadaeth y Lotri yng Nghymru: "Yn amlwg, mae llwyddiant 'Ein Holl Straeon' wedi cryfhau'r ffaith ein bod yn genedl o chwedleuwyr, a'n bod eisiau archwilio a phalu ymhellach i'n gorffennol, gan ddarganfod yr hyn sydd yn wirioneddol o bwys i ni. Dyma yn union beth wnaiff y grant ar gyfer y prosiect Cymunedau Cysylltiedig, wrth iddynt fynd ar daith ddarganfod."