Prifysgol yn croesawu Prif Guradur yr Oriel Portreadau Cenedlaethol i roi darlith gyhoeddus

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Dr Tarnya Cooper, Prif Guradur yr Oriel Portreadau Cenedlaethol yn Llundain, yn traddodi darlith gyhoeddus, gyda mynediad am ddim, ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Iau 21 Mawrth, dan y teitl: “Meeting the Elizabethans: portraiture, spiritual identities and the middling sort”.

Tarnya CooperBydd y ddarlith yn para am awr, gan gychwyn am 6pm yn Narlithfa Wallace y Brifysgol, ac mae'n agored i bawb.  Bydd yn datgelu sut all portreadau roi mewnwelediad i feddylfryd a diwylliant y dosbarth canol yng Nghymru a Lloegr yn Oes Elisabeth.

Bydd y ddarlith yn trafod portreadau o fasnachwyr, manwerthwyr, pobl broffesiynol, awduron, ac arlunwyr yn ystod Oes Elisabeth, a bydd yn canolbwyntio ar enghreifftiau o destunau Cymreig a Seisnig, gan ofyn beth all portreadau ei ddweud wrthym am statws cymdeithasol a hunaniaeth ysbrydol yn y cyfnod ar ôl y Diwygio.

Y digwyddiad hwn yw Darlith Gymreig Flynyddol Cymdeithas Astudio'r Dadeni.  Dyna'r prif sefydliad academaidd ym Mhrydain i roi fforwm rhyngddisgyblaethol i bobl sydd â diddordeb ym mhob agwedd ar y Dadeni.  Fe'i cefnogir gan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Dr Tarnya Cooper wedi gweithio gyda'r Oriel Portreadau Cenedlaethol ers dros ddeng mlynedd, ac mae'n goruchwylio gwaith yr adran curadurol, yr archif, a'r llyfrgell.

Y mae ei phrif arbenigedd yn ymwneud â'r cyfnod Tuduraidd, ac ar hyn o bryd mae'n rheoli prosiect saith mlynedd o'r enw Creu Celf ym Mhrydain y Tuduriaid, sy'n ystyried cynhyrchu, dylanwadau, a nawdd portreadau Tuduraidd a Jacobeaidd.

Mae'r ddarlith hon ym Mhrifysgol Abertawe yn tynnu ar ymchwil arloesol Dr Cooper, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasg Prifysgol Yale mewn monograff o'r enw: ‘Citizen Portrait: portrait painting and the urban elite of Tudor and Jacobean England and Wales’ (YUP, 2012).

Dywedodd Dr Regina Pörtner, Uwch-ddarlithydd Hanes yng Ngholeg y Celfyddydau A'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe: "Sefydlwyd y Darlithoedd Cymreig Blynyddol yn 2012 i ddathlu ymchwil i'r Dadeni yng Nghymru, ac i ddod ag arbenigwyr blaenllaw o bellach i ffwrdd i'n sefydliadau. Mae cynnal y ddarlith gyhoeddus eleni'n rhan o ymrwymiad y Sefydliad i gyfrannu i ddiwylliant Cymru, ac i sicrhau ymwneud y gymuned â'r Celfyddydau a'r Dyniaethau.

"Mae Dr Tarnya Cooper yn awdurdod blaenllaw ar arlunio Tuduraidd, ac mae wrthi'n paratoi arddangosfa fawr ar 'Elisabeth I a'i Phobl', sydd i'w chynnal yn yr Oriel Genedlaethol o fis Hydref ymlaen eleni.

"Dwi'n hynod o falch y caiff cymuned academaidd Abertawe, a'r cyhoedd, gyfle i glywed am ymchwil cyffrous Dr Cooper ar gelf Oes Elisabeth, ac i gael blas ymlaen llaw, fel petai, o'r digwyddiad yn Llundain yn yr hydref."

Cynhelir y ddarlith, sydd i'w thraddodi gan Dr Tarnya Cooper, Prif Guradur yr Oriel Portreadau Cenedlaethol, ddydd Iau, 21 Mawrth am 6pm. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael cyn y ddarlith o 5.15pm ymlaen. 

Traddodir y ddarlith yn Narlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.

Am ragor o wybodaeth ac unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost at: riah@abertawe.ac.uk neu ewch i: http://www.swansea.ac.uk/riah/public-lecture-and-event-series-2012-13/.

Dolenni i gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol sefydliadau: