Prifysgol Abertawe yn penodi cwmni adfywio blaenllaw o'r DU i adeiladu ei champws newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb datblygu gyda St. Modwen, arbenigwr adfywio blaenllaw y DU i adeiladu rhan gyntaf ei Champws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd.

Bydd cynlluniau datblygu'r Brifysgol, sy'n cynnwys adfywio'r campws presennol ym Mharc Singleton yn ogystal ag adeiladu'r campws newydd, yn creu cyfleusterau ymchwil, arloesi ac addysg o'r radd flaenaf yn Abertawe. 

2nd campus

Bellach, mae gwaith paratoi ar y gweill ar safle'r campws newydd ar Ffordd Fabian, Abertawe, yn dilyn proses gaffael yn unol â rheolau'r UE.  Penodwyd St Modwen a'i bartner adeiladu dewisol, Vinci.

Crëir oddeutu 4,000 o swyddi'n uniongyrchol yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda rhyw 6,000 o swyddi eraill yn anuniongyrchol yn yr economi ehangach o ganlyniad.

 

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

"Mae'r Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd yn brosiect trawsnewidiol i Gymru ac i'r Brifysgol. Daw yn enghraifft i'r byd am y ffordd y mae prifysgol ymchwil yn gallu gweithio'n effeithiol gyda diwydiant, gan helpu i yrru adfywio economaidd a chan greu cyfleoedd gwaith cyffrous i'w graddedigion.

"Bydd y cyfleusterau newydd, ymchwil o'r radd flaenaf, a graddedigion cymwys iawn yn denu cwmnïau rhyngwladol, ac yn cefnogi datblygu clystyrau technoleg uwch yn y rhanbarth.

“Ar ben hynny, cyfrannir dros £3 biliwn i'r economi rhanbarthol yn y deng mlynedd nesaf o ganlyniad i adeiladu'r campws newydd, gan greu miloedd o swyddi a gwella enw da Prifysgol Abertawe ymhellach fel sefydliad o bwys ar gyfer ymchwil gwyddoniaeth a thechnoleg.

"Bydd y campws newydd yn enwedig o fanteisiol i fyfyrwyr. Bydd cydweithio agosach rhwng y Brifysgol a diwydiant yn helpu i sicrhau bod gennym y rhaglenni gradd mwyaf perthnasol a diweddar, a bydd cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ennill y sgiliau a'r profiad y mae eu hangen ar gyflogwyr."

Dywedodd Bill Oliver, Prif Weithredwr St. Modwen:

‘‘Bydd y campws newydd yn gwneud byd o wahaniaeth i’r rhan yma o dde Cymru ac yn hwb mawr i’r economi leol a chenedlaethol yng Nghymru.  Ar y cyd â’r gwaith o adfywio Coed Darcy, Bae Baglan a Glan Llyn yng Nghasnewydd, bydd y campws yn chwarae rhan fawr yn ein hymgais i weddnewid de Cymru.

‘‘Dros y blynyddoedd nesaf, edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Brifysgol ar y cynllun pwysig hwn yn ogystal ag ymwneud â’r gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol.’’

Dywedodd BP, cyn berchennog y safle: "Mae'r cytundeb hwn rhwng Prifysgol Abertawe a St Modwen i greu Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi yn newyddion gwych o ran adfywio cynaliadwy rhanbarth Bae Abertawe. Mae BP yn hynod o falch o fod wedi chwarae rôl allweddol trwy gydol y broses. Edrychwn ymlaen at weld genedigaeth campws hardd dros y misoedd nesaf, campws sydd wedi'i ddylunio gan rai o benseiri gorau'r byd.  Ac wedyn, edrychwn ymlaen at weld manteision swyddi a thwf economaidd i'r gymuned leol."

Roedd Sefydliad y Tywysog ar gyfer Adeiladu Cymuned wedi chwarae rôl allweddol yn y broses o greu gweledigaeth ar gyfer y campws. Trwy gyfres o weithdai, roedd Sefydliad y Tywysog wedi datblygu'r prif gynllun, ac wedyn gweithiodd gyda Porphyrios Associates a Hopkins Architects i ddatblygu'r cynigion ar gyfer y campws.

Dywedodd Uwch-gyfarwyddwr Dylunio Sefydliad y Tywysog, Ben Bolgar: "Mae'n wych i weld y weledigaeth y tu ôl i Gampws Prifysgol Abertawe'n troi'n realiti. Trwy ein gweithdai, a chyda chymorth ein prif bartneriaid, roeddem ni wedi ceisio creu gweledigaeth a phrif gynllun oedd yn adlewyrchu'n cred ei bod hi'n bwysig creu cyfres o ofodau a fyddai'n ychwanegu at y broses ddysgu. Rydym wedi cyffroi i weld Prifysgol Abertawe'n gyrru'r cynllun hwn yn ei flaen, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld y canlyniad."