Prifysgol Abertawe'n helpu 'cipio'r golau' gyda chenedl yr enfys

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd plant yn Ne Affrica'n 'chwilio am yr enfys' pan fydd academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol KwaZulu-Natal, Durban, yn ymweld â'u hysgolion i'w helpu i archwilio byd cyffrous cemeg, golau a lliw.

Catch the rainbow logo 3Mae "Cipio'r Golau gyda Chenedl yr Enfys" wedi'i fwriadu i gynyddu poblogrwydd cemeg a dealltwriaeth ohoni yn Mafikeng a Durban. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio'n bennaf ar gyfres o 25 gweithdy i ysgolion yn archwilio cemeg, lliw a golau gyda'r enfys fel thema ganolog. Caiff y gweithdai eu cynnal ym Mhrifysgol KwaZulu-Natal i ysgolion yn ardaloedd cyfagos Durban ac yn Ysgol Uwchradd Mafikeng a byddant yn cael eu cynnal rhwng y31ain Awst a'r 19eg Medi. Maent wedi'u bwriadu ar gyfer plant o bob oed (o 3 hyd at 18). Disgwylir y bydd dros 1000 o blant yn rhan o'r gweithdai. Yn nhrefgorddau Mafikeng bydd y gweithdai'n cynnwys oddeutu 250 o blant rhwng 3 a 6 blwydd oed. Ynghyd â'r gweithdai bydd darlithoedd arddangos gyda'r hwyr ar gyfer y gymuned gyffredinol (plant, teuluoedd, ac athrawon).

Arweinydd y prosiect ar gyfer y digwyddiad yw Dr Matthew Lloyd Davies, Cymrawd Trosglwyddo Technoleg SPECIFIC; bydd yn gweithio gyda thîm o 15 o wyddonwyr o Gymru a De Affrica wrth gyflwyno a chynnal y gweithdai. Mae'r digwyddiad wedi'i ariannu gan SPECIFIC, sy'n gonsortiwm academaidd a diwydiannol a arweinir gan Brifysgol Abertawe, gyda Tata Steel fel y prif bartner diwydiannol, wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), y Bwrdd Strategaeth Technoleg a Llywodraeth Cymru. Mae'r digwyddiad hefyd wedi'i gefnogi gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Mae'r tîm yn gweithio gyda'r elusen SOS Africa i ddarparu'r gweithdai. Mae SOS Africa'n ariannu addysg a gofal y plant mwyaf tlawd o drefgorddau Mafikeng, De Affrica. Ethos yr elusen yw "pŵer drwy addysg".