Prifysgol Abertawe'n cyrraedd rownd derfynol Gwobrau'r Gynau Gwyrdd 2013

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect "gwyrdd" Prifysgol Abertawe sy'n dangos sut y mae ei thiroedd wrth wraidd Prifysgol gynaliadwy wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Gynau Gwyrdd 2013.

Green Gown Awards 2013

Cafodd y Brifysgol ei gosod ar y rhestr fer yn y categori Cyfleusterau a Gwasanaethau am ei menter ‘Canol, Calon, Craidd: Campus at the centre’ . Gwnaeth yr enwebiad am y wobr amlygu sut y mae Prifysgol Abertawe'n defnyddio ei thiroedd i hyrwyddo materion cydgysylltiol ynghylch lles a chynaliadwyedd amgylcheddol trwy ddarparu canolfan gweithgareddau lles i staff a myfyrwyr; safle amser i anadlu gwyrdd i bobl a bywyd gwyllt; ac ystafell ddosbarth awyr agored fel adnodd dysgu.

Mae ‘Canol, Calon, Craidd: Campus at the centre’ yn cynnwys y cynllun cyfeirio 'ecotherapi' newydd sy'n helpu pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl a chyhyrysgerbydol, y cynllun beiciau am ddim o'r enw 'Beiciau'r Bae' sydd newydd ei sefydlu, y Cynllun Rheoli Bioamrywiaeth i wella swyddogaeth werdd y campws, llwybr natur dwyieithog y campws, adnewyddu'r gerddi botanegol a defnyddio'r safle ar gyfer cyrsiau ecoleg/botaneg. 

Roedd prosiect Prifysgol Abertawe'n un o 81 o brosiectau cynaliadwyedd ysgogol ac ysbrydoledig yn cynrychioli 53 sefydliad addysgol o ar draws y DU a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Amgylcheddol ar gyfer Prifysgolion a Cholegau (EAUC) fel cynrychiolwyr ar gyfer Rownd Terfynol Gwobrau'r Gynau Gwyrdd 2013 - pob un ohonynt yn cystadlu am y gydnabyddiaeth fwyaf breintiedig o ymarfer da o fewn y sector addysg drydyddol.

Roedd Dr Heidi Smith, Rheolwr Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe wrth ei bodd gyda'r newyddion bod y Brifysgol wedi'i dewis i fod yn y Rownd Derfynol. Meddai: "Mae'r gystadleuaeth ar gyfer gwobrau 2013 wedi bod yn ffyrnig, gyda 216 o geisiadau wedi'u derbyn ar draws 13 categori. Dywedodd y beirniaid eu bod wedi'i chael hi'n anodd prosesu'r ceisiadau.

"Roedd ein llwyddiant hyd yn oed yn fwy hynod os ydych yn ystyried y ffaith bod ein categori 'Cyfleusterau a Gwasanaethau' yn un o'r 3 prif gategori - yn cynrychioli 42% o'r holl geisiadau.

"Mae'r gystadleuaeth yn gryf ond byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddangos i'r beirniaid y rôl bwysig sydd gan gynaliadwyedd yn y ffordd y mae Prifysgol Abertawe'n darparu amgylchedd o archwilio a darganfod, gan gynnwys y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil i'w myfyrwyr mewn gosodiad o barcdir dymunol." 

Bellach yn eu nawfed flwyddyn, mae Gwobrau'r Gynau Gwyrdd yn cydnabod y mentrau cynaliadwyedd eithriadol y mae prifysgolion, colegau a'r sectorau dysgu a sgiliau ar draws y DU yn ymgymryd â hwy. Gyda datblygiad cynaliadwy yn symud i fyny'r agenda byd-eang, mae'r Gwobrau bellach wedi'u sefydlu fel y gydnabyddiaeth fwyaf breintiedig o ragoriaeth mewn cynaliadwyedd o fewn y sector addysg drydyddol, yn ogystal â'r sector amgylcheddol.

Mae Gwobrau'r Gynau Gwyrdd yn darparu prifysgolion, colegau a'r sector dysgu a sgiliau â meincnodau ar gyfer rhagoriaeth ac maent wedi'u parchu'n fawr gan lywodraethau, cyrff ariannu, rheolwyr uwch, academyddion a myfyrwyr ynghyd.

Gellir dod o hyd i restr o gynrychiolwyr Rownd Derfynol Gwobrau'r Gynau Gwyrdd 2013 yn www.greengownawards.org.uk