Prifysgol Abertawe'n croesawu digwyddiadau cyffwrdd o bwys

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Pentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe'n lleoliad ar gyfer dau ddigwyddiad rygbi cyffwrdd o bwys.

Bydd y Brifysgol, mewn partneriaeth â Chymdeithas Cyffwrdd Cymru (CCC) yn croesawu Rowndiau Terfynol y Pencampwriaethau Cenedlaethol yr wythnos nesaf (Ebrill 6ed a 7fed) tra bo paratoadau eisoes ar y gweill ar gyfer Pencampwriaethau Cyffwrdd Ewrop, sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Awst 2014. (Awst 7fed-10fed).

Mae Cyffwrdd yn "gêm i bawb" ac o ganlyniad i'w natur di-wrthdaro a'i chwaraewyr medrus chwimwth mae'r gamp wedi tyfu'n fyd-eang. Mae'r gamp yn Awstralia yn fwy na Rygbi a Rygbi'r Gynghrair gyda'i gilydd ac mae wedi'i datblygu yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf gan Gymdeithas Cyffwrdd Cymru.

Mae CCC wedi sefydlu strwythur rhanbarthol a fydd yn dod i uchafbwynt gyda'r Pencampwriaethau Cenedlaethol yn 2013 i greu newid positif o ran llwybrau datblygu i chwaraewyr yng Nghymru. Mae'r llwybr hwn yn caniatáu i chwaraewyr ddatblygu drwy rengoedd Cyffwrdd Rhanbarthol i ennill capiau rhyngwladol. 

Meddai Gwion Kennard, Cyfarwyddwr Technegol CCC: "Mae ffurfio Rhanbarthau Cyffwrdd yn arwain at y Pencampwriaethau Cenedlaethol yn gam enfawr ymlaen ar gyfer Rygbi Cyffwrdd yng Nghymru. Bydd y cam sylweddol hwn yn newid y llwybr ar gyfer adnabod talent, datblygu chwaraewyr a chynrychioli Cymru. Mae hefyd yn darparu sail a llwyfan ar gyfer datblygu hyfforddwyr cenedlaethol, dyfarnwyr, rheolwyr a gweinyddwyr at y dyfodol.

"Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Pencampwriaethau Cenedlaethol 2013 a Phencampwriaethau Ewropeaidd 2014 yn cael eu chwarae ym Mhentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe, sy'n lleoliad gwych gyda digonedd o gyfleusterau ar y safle, digon o lety ar drothwy'r drws ac ardal glan dŵr ardderchog mewn gosodiad rhanbarthol gwirioneddol.

"Mae CCC yn ddiolchgar i'r rhai hynny sydd wedi gweithio tuag at greu'r digwyddiad hwn, am gymorth y Brifysgol a chymorth parhaus gwych ein gwirfoddolwyr. Hebddyn nhw, ni fyddai hyn yn bosib o gwbl."

Bydd timoedd cyffwrdd gorau Ewrop yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop ym mis Awst 2014 ym Mhentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe i geisio ennill y teitl Pencampwyr Ewrop, teitl a enillodd Cymru yn 2010.

Meddai Gwyneth Diment, Pennaeth Chwaraeon a Hamdden Gorfforol ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n bleser gennym groesawu'r ddau ddigwyddiad mawr hyn ym maes chwaraeon cyffwrdd i Abertawe ac rydym yn gobeithio y bydd y chwaraewyr yn manteisio i'r eithaf ar ein cyfleusterau gwych.

"Mae Prifysgol Abertawe'n adeiladu ar lwyddiant cynnal timoedd paralympaidd Mecsico a Seland Newydd yr haf diwethaf ac rydym bellach wedi'n sefydlu'n gadarn ar y map fel lleoliad sy'n gallu darparu digwyddiadau chwaraeon gwych. Dim ond yr wythnos ddiwethaf gwnaethom gyhoeddi y byddwn yn cynnal Pencampwriaeth Athletau Ewrop 2014 y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol, y tro cyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal unrhyw le yn y DU ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal llawer o ddigwyddiadau chwaraeon gwych yn y dyfodol."

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â'r pencampwriaethau Ewropeaidd a Chenedlaethol, yn ogystal â Chymdeithas Cyffwrdd Cymru yn http://www.walestouch.co.uk/