Prifysgol Abertawe’n Cofnodi ‘Diwrnod Ada Lovelace’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bu menywod blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe’n cwrdd ddoe i ddathlu Diwrnod Ada Lovelace ac i rannu eu barn, eu syniadau a’u profiadau ynghylch yr agenda cydraddoldeb rhywiol yn y Brifysgol ac i drafod sut y gellir cynyddu nifer y menywod mewn swyddi uwch ar draws y Brifysgol.

Mae Diwrnod Ada Lovelace, yn ddigwyddiad lefel sylfaenol byd eang sydd wedi’i sefydlu er mwyn hyrwyddo menywod sy’n ddelfrydau ymddwyn mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (y pynciau STEMM). Y syniad yw y bydd gwneud y menywod hyn yn fwy gweladwy yn codi eu proffil a hefyd yn codi proffiliau’r holl fenywod yn y meysydd hyn ar yr un pryd.

Ada Lovelace1

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol a datblygu gyrfaoedd academyddion ac mae eisoes yn meddu ar Wobr Efydd Athena SWAN. O fewn y Brifysgol, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yw’r Coleg cyntaf i’w anrhydeddu a’i wobr ei hun.  

Mae Athena SWAN yn siarter genedlaethol sy’n cydnabod ac yn dathlu ymarfer da gan gyflogwyr ar gyfer menywod sy’n gweithio mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) ym maes addysg uwch ac ymchwil.

Mae’r Brifysgol wedi sefydlu Grŵp Strategol Athena SWAN i wella proffil Athena SWAN o fewn y Brifysgol drwy gefnogi a monitro cynnydd yr amryw gyflwyniadau Athena SWAN yn y Brifysgol a chynnal deialog gyda phob Coleg STEMM. Mae’r grŵp wedi’i gadeirio gan y Dirprwy Is-ganghellor yr Athro Hilary Lappin-Scott, sydd hefyd yn hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yn y Brifysgol. Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Golegau STEMM, Undeb y Myfyrwyr ac Adnoddau Dynol, sy’n sicrhau llif effeithiol o wybodaeth yn ôl ac ymlaen o’r grŵp mewn perthynas â chynnydd a wneir yn erbyn y cynllun gweithredu Athena SWAN.

Mae’r Brifysgol wedi bod yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio yn ymwneud ag Athena SWAN ar draws y campws ac mae trafodaethau wedi’u cynnal ar y testunau canlynol:  'Hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ym Mhrifysgol Abertawe a Lansio mentora i fenywod’; ‘Datblygu a chefnogi menywod sy’n gweithio ym maes Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe’ a ‘Phrofiad Menywod yn y gweithle’.

Ada Lovelace2

Wrth siarad yn y cyfarfod a gynhaliwyd ddoe i fenywod mewn swyddi uwch yn y brifysgol, meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott: “Fel Ada Lovelace, mae llawer o fenywod nad yw eu cyfraniadau i’r byd academaidd wedi’u cydnabod na’u gwobrwyo. Trwy godi proffil menywod, gyda’r diwrnod dathlu rhyngwladol hwn, caiff pobl ar draws y byd eu hannog i siarad am y menywod y maent yn edmygu eu gwaith ac i ysbrydoli eraill.  

“Y nod penodol o Gynllun Strategol Cydraddoldeb y Brifysgol a chyflwyniad Athena SWAN y Brifysgol yw cynyddu nifer y swyddi uwch ar draws y brifysgol i gyd. Roedd cyfarfod ddoe yn fuddiol tu hwnt gyda thrafodaethau’n canolbwyntio ar gyfleoedd i fenywod gan gynnwys staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol, codi ymwybyddiaeth, a mecanweithiau cymorth megis rhwydweithiau a mentora y byddwn yn eu trafod yn fanylach mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

“Bu farw Ada Lovelace o ganser yn 36 oed, yn drasig heb gyflawni ei photensial. Yng Nghymru fodern mae’n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i wneud yn siŵr bod menywod yn cael eu cydnabod am eu cyflawniadau mewn cymdeithas gyfartal.”