Poblogrwydd 'apps' Twristiaeth yng Ngwersyll Haf 'Technocamps'

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dros 75 o bobl ifanc wedi bod wrthi'n datblygu 'apps' twristiaeth yn ystod yr haf, yn rhan o raglen arloesol sy'n targedu plant y ddinas nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a'r rhai sydd mewn perygl o gwympo i'r categori hwnnw.

Mae'r cynllun yn ceisio hybu hyder a sgiliau cyfathrebu a datrys problemau er mwyn gwella rhagolygon gwaith plant yn eu harddegau.

Technocamps tourism apps 2

Roedd y prosiect Technocamps o Brifysgol Abertawe wedi ymuno â Gwasanaethau Pobl Ifanc Cyngor Abertawe, oedd yn arwain y rhaglen bum wythnos. Y partneriaid eraill oedd y Fenter Iaith, Cymunedau'n Gyntaf, y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Prosiect Cadw mewn Cysylltiad, Prosiect Ohana, a'r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr. Roedd y rhaglen yn cynnwys pob math o weithgarwch, gan gynnwys her coginio yn arddull 'Come Dine With Me', tasgau mentergarol yn arddull Prentis Ifanc, adeiladu rafft, adeiladu robot, a hyd yn oed her 'Bush Tucker', yn ystod cyfres o gyrsiau preswyl pedwar diwrnod.

Dywedodd Will Evans, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Dysgu a Sgiliau: "Mae Cyngor Abertawe ac asiantaethau eraill yn y ddinas wedi rhoi blaenoriaeth i leihau nifer y plant yn eu harddegau sy'n methu mynd i addysg bellach neu swydd ar ôl gadael yr ysgol. Rydym am iddynt gyflawni eu potensial yn llawn, a sicrhau nad ydynt yn dod yn faich ar y gymdeithas.

"Dwi'n hynod o falch o lwyddiant y gwersylloedd haf, ac yn ddiolchgar i'r partneriaid am sicrhau'r llwyddiant hwnnw."

Technocamps tourism apps 1

Roedd prosiect Technocamps wedi cynnal sesiynau i gyflwyno'r byd datblygu 'apps' i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed. Yn ystod y gweithdai, cafodd y bobl ifanc gyfle i ddysgu am ddatblygu apps, a chawsant y dasg o ddylunio, datblygu, a rhaglennu app twristiaeth. Roedd y tasgau'n cynnwys dyfeisio enw bachog i'r app, casglu'r wybodaeth oedd ei hangen ar yr app, a chanfod mantais werthu unigryw'r app. Hefyd, cawsant gyflwyniad i feddalwedd 'MIT App Inventor'. Wedyn, roedd yn rhaid iddynt gyflwyno'r app i grwpiau eraill.

 

Dywedodd Amelia Edwards, 16 oed, o Frynhyfryd: "Ar y dechrau, rôn i'n meddwl bod creu app yn amhosibl, ond daeth lot yn haws ar ôl dylunio'r sgrin gyntaf."

Dywedodd Mark Leyshon, o Technocamps: "Cawsant nifer o syniadau gwych a gwreiddiol a fyddai'n berffaith ar gyfer cymhwysiad twristiaeth."

Ychwanegodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe, "Ar y cyfan, roedd y gweithdai preswyl yn ystod yr haf yn llwyddiannus iawn, gan iddynt ysbrydoli, annog, a chymell rhai o'r bobl ifanc i ystyried dysgu pellach a swyddi posibl ym maes Cyfrifiadureg, mewn awyrgylch hwylus heb bwysau."

Lluniau:

Llun Grŵp: Pobl ifanc yn rhannu eu syniadau â thîm Technocamps.

Llun y bwrdd sgrialu: Port Eynon oedd y lle i fod yn ystod yr haf yn y rhaglen a drefnwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Abertawe ar y cyd â Technocamps.