Pêl-droed Traeth i Ymddangos am y Tro Cyntaf yng Nghanolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Taith Genedlaethol Pêl-droed Traeth Stanno yn cyrraedd Abertawe ar Fehefin 29ain am benwythnos cyffrous o chwaraeon i bawb.

Mae'r Daith Genedlaethol yn dod i'r Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 am y penwythnos. Bydd timoedd yn cystadlu am le yn y Rownd Derfynol Genedlaethol yn Skegness ym mis Medi.

Bydd y tîm sy'n ennill y teitl pencampwyr cenedlaethol yn codi Cwpan y Pencampwyr ond hefyd yn chwarae mewn gêm elusennol yn erbyn tîm Pêl-droed Traeth Lloegr mewn stadiwm newydd sbon yn Skegness o flaen dros 2,000 o wylwyr ar yr 8fed o Fedi. Yn ogystal â hyn byddant yn ennill cyfle i gynrychioli'r DU yng Nghwpan Enillwyr Ewrop 2014 - cynhaliwyd y gystadleuaeth eleni ym mis Mai yn yr Eidal!

Mae'r Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 yn adnabyddus am gynnig digwyddiadau chwaraeon traeth gwych ac mae ganddi gyfleuster gwych ar y traeth.

Meddai Dave Jones, Rheolwr Tîm Lloegr, "Bydd Tîm Lloegr ar daith Genedlaethol ac yn cymryd rhan ym mhob un o'r digwyddiadau, ac ym mhob twrnamaint bydd cyfle gan yr enillwyr i chwarae yn erbyn Tîm Lloegr mewn gêm arddangosfa.  Mae hefyd yn gyfle i chwaraewyr lleol ddangos eu talent a bydd sgowtiaid yn sicr yn edrych am chwaraewyr posib i chwarae dros Loegr yn ystod y daith."

360 brand logo

Mae'r penwythnos yn addo bod yn ddigwyddiad cyffrous gydag atmosffer parti go iawn. Bydd gweithgareddau traeth yn cael eu cynnal drwy gydol y penwythnos, gyda Pharti Traeth ar Nos Sadwrn gyda Barbeciw, cerddoriaeth fyw a sioe ffasiwn. Bydd Beach Promotions Ltd yn siarad â busnesau lleol i ddarparu adloniant a gwasanaethau ar gyfer y naill ddigwyddiad ar y penwythnos.

Meddai Kate Hannington, Rheolwr Cyffredinol 360  "Rydym yn falch iawn o allu cymryd rhan yng nghamau cynnar y gynghrair ac rydym yn gobeithio creu Tîm Cenedlaethol Cymraeg y tymor nesaf.  Rydym yn gobeithio y bydd Cymru'n gallu herio Tîm Lloegr a dangos iddynt yr hyn yr ydym yn gallu ei wneud!"

Rydym yn gofyn i bob tîm sydd â diddordeb mewn chwarae i gofrestru ar y wefan. Nid oes rhaid bod gennych brofiad o Bêl-droed Traeth i gymryd rhan!

Am ragor o fanylion ac i gofrestru tîm ewch i http://www.ukbeachpromotions.com/national-league-registration

Os hoffech gymryd rhan gyda'r parti neu ddarparu gweithgareddau traeth dros y penwythnos neu am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r Daith Genedlaethol, cysylltwch â Taryn Johnston ar 07737143330 neu Taryn@ukbeachpromotions.com.

Am ymholiadau cyfryngau ynglŷn â'r Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr cysylltwch â Janis Pickwick, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050, neu e-bost: j.m.pickwick@abertawe.ac.uk