Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Defnyddiwyd papur gan ffisegwyr Prifysgol Abertawe yn 'Uchelbwynt Ymchwil' yn y cylchgrawn ar-lein rhyngwladol Physics of Plasmas.
Ysgrifennwyd y papur, "Manipulation of the magnetron orbit of a positron cloud in a Penning trap", gan Timothy Mortensen, Adam Deller, Dr Aled Isaac, Dr Dirk van der Werf a'r Athro Mike Charlton, o Adran Ffiseg y Brifysgol, yn y Coleg Gwyddoniaeth.
Yn y papur, mae tîm Abertawe yn disgrifio dull syml ac amlbwrpas o ddefnyddio magl Penning i newid a rheoli osgled orbit rhai ionau. Defnyddiwyd y dechneg ar gwmwl o bositronau egni isel, ond dylai'r dechneg weithio ar unrhyw fath o ronynnau gwefredig mewn magl Penning.
- Dydd Iau 21 Mawrth 2013 00.00 GMT
- Dydd Mercher 11 Medi 2019 15.27 BST
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049