Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cyfnewid crysau gwyrdd a gwyn am grysau coch

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd chwaraewyr rygbi o Abertawe'n arwain pac Myfyrwyr Cymru pan fyddant yn chwarae yn erbyn yr Almaen ddydd Sadwrn.

Dewiswyd pum cynrychiolydd o Glwb Rygbi Prifysgol Abertawe i ymuno â'r sgwad 22 aelod, ac mae 4 ohonynt yn chwarae o'r cychwyn.

Bydd Greg George y bachwr, Sean McDonnell-Roberts y prop pen tynn, Jon Barley yn yr ail reng, a'r wythwr Reuben Tucker ar y cae o'r cychwyn, gydag  Aled Thomas y mewnwr yn gobeithio codi o fainc yr eilyddion i ymuno â'i gyd-chwaraewyr. Mae pob un o'r pump yn chwarae i glwb (Llanelli, Abertawe, neu Gaerdydd) yn ogystal â thîm y Brifysgol.

Mae myfyrwyr Cymru'n chwarae'r Almaen yn Heidelberg ddydd Sadwrn, 23 Chwefror, am 2.30pm. 

Fel rhan o ddatblygiad rygbi myfyrwyr yng Nghymru, ail-sefydlwyd Tîm Myfyrwyr Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ers 2004.

Roedd hynny'n un o gyfres o ddigwyddiadau ym myd rygbi myfyrwyr sydd hefyd wedi cynnwys cyflwyno Cynghrair y Glas.

O dîm y llynedd, a chwaraeodd yn erbyn Myfyrwyr Lloegr, mae tri chwaraewr wedi llofnodi contract proffesiynol gyda rhanbarthau Cymru, ac aeth pedwar arall ymlaen i gynrychioli Cymru yn y gêm Saith Bob Ochr.

Bydd tîm eleni'n gobeithio gwneud cynnydd tebyg yn sgil chwarae yn erbyn Myfyrwyr yr Almaen a Myfyrwyr Lloegr. Mae Myfyrwyr Cymru'n chwarae Myfyrwyr Lloegr yn Rodney Parade am 1pm ar 17 Mawrth.

Am ragor o wybodaeth am y tîm ac am gêm dydd Sadwrn, ewch i: http://www.wru.co.uk/eng/news/24964.php#.USTHAb8x8y4

Bydd y profiad a'r hyfforddiant a gânt wrth chwarae ar lefel genedlaethol yn helpu'r chwaraewyr i baratoi ar gyfer gêm Farsity Cymru yn y dyfodol agos.

Cynhelir y gêm rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd am Darian y Prifysgolion bob blwyddyn. Eleni, chwaraeir y gêm Farsity am 7.30pm ddydd Mercher 24 Ebrill. 

Cynhelir dros 25 o ddigwyddiadau i benderfynu pwy sy'n derbyn Tarian y Prifysgolion dros gyfnod o wythnos. Canolbwynt y campau yw'r gêm rygbi a chwaraeir ar y nos Fercher yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, pan fydd y ddwy brifysgol yn mynd benben â'i gilydd. Aeth dros 15,000 i weld gêm y llynedd.

Cynhwysir chwaraeon eraill yn y gemau hefyd, gan gynnwys hoci, sboncen, badminton, lacrós, rhwyfo, golff, pêl-fasged, pêl-droed, pêl-rwyd, cleddyfaeth, ac ystod o chwaraeon eraill gan gynnwys crefft ymladd. Mae'n ddigwyddiad codi arian, ac aiff yr elw at nifer o achosion da.

Gydag ychydig dros ddau fis cyn y diwrnod mawr, mae'r trefnwyr yn disgwyl mynd mawr ar y tocynnau, fydd yn cael eu prynu gan fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, a chefnogwyr rygbi.

Mae tocynnau ar werth yn awr.  Y pris yw £15, neu £12.50 i fyfyrwyr. Am ragor o wybodaeth, ewch i: welshvarsity.com

 

Greg GeorgeSean McDonnell-RobertsJon Barley

 

Reuben TuckerAled Thomas

 

Lluniau o'r chwaraewyr

  1. Greg George
  2. Sean McDonnell-Roberts
  3. Jon Barley
  4. Reuben Tucker
  5. Aled Thomas