Myfyrwyr Nyrsio'n Cerdded yn eu Cwsg i Elusen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi codi bron £550 ar gyfer Tŷ Hafan, yr hosbis i blant o Gymru, gyda chymorth ei ffrindiau ar y cwrs.

Student nurses charity walk

Gwisgodd Angharad Hughes ei phyjamas, ei chlogwyn a phenrwymyn a oedd yn fflachio a chychwyn ar ei thaith o Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar gyfer digwyddiad thema "super hero" Cerdded yn eich Cwsg Canol Nos Tŷ Hafan, ynghyd â'i ffrindiau ar y cwrs Gemma Hale a Robyn Leary.

Meddai Angharad, sydd ym mlwyddyn gyntaf ei chwrs Nyrsio Plant yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe: "Unwaith i'r cloc daro hanner nos roeddwn ni ar ein ffordd am daith gerdded chwe milltir o hyd o amgylch Caerdydd.  Roedd hi'n ddiwrnod gwlyb iawn ond gyda lwc, peidiodd y glaw tra roeddwn yn cerdded. Gorffennom ni'r daith mewn ychydig dros awr ac roedd hi’n deimlad braf ein bod wedi’i gwneud mor gyflym - gwnaeth yr holl gerdded cyflym i'r brifysgol ac yn ôl dalu ar ei ganfed."

I gynyddu eu hymdrechion codi arian, sefydlodd Angharad, Gemma a Robyn stondin gacennau ym Mhrifysgol Abertawe, yn gwerthu cacennau cartref yn gyfnewid am roddion. Gwnaethant hefyd berswadio JC's, bar y myfyrwyr, i roi bwced casglu arian wrth ymyl y bar.

Cafodd Angharad ei hysbrydoli i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan er cof am ffrind i'w theulu, Liam Burchell.  Roedd Liam, a fu farw dair blynedd yn ôl yn 19 oed, yn dioddef o Nychdod Cyhyrol, cyflwr sy'n cyfyngu bywyd, ac roedd yn ymweld rheolaidd â Thŷ Hafan.

Dywedodd hi: "Roeddwn i am godi arian ar gyfer Tŷ Hafan er cof am Liam. Roedd y lle'n golygu cymaint i Liam a'i deulu. Gan wybod am y gwaith anhygoel y mae Tŷ Hafan yn ei wneud roeddwn i'n meddwl y byddai'n beth gwych i'w wneud gyda'm cyd fyfyrwyr nyrsio, nid dim ond fel ymarfer bondio fel tîm, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth am Dŷ Hafan."

Ychwanegodd: "Rydw i mor ddiolchgar i'm ffrindiau nyrsio i gyd a'r staff am eu cymorth ac rydw i'n falch ein bod wedi gwneud hyn i Dŷ Hafan, A dweud y gwir, rydym yn dechrau cynllunio ar gyfer y digwyddiad y flwyddyn nesaf. Gyda lwc byddwn ni'n gwneud hyn yn achlysur blynyddol!"

Gwnaeth y Darlithydd Nyrsio Plant yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Zac Maunder, gefnogi Angharad a'i ffrindiau wrth godi arian. Meddai: "Gwnaeth y grŵp dynnu at ei gilydd i godi arian ac maen nhw wedi dangos gwaith tîm anhygoel drwy gydol y dasg. Ar ran yr holl dîm nyrsio plant, hoffwn ddweud mor falch yr ydym ohonynt am ddangos eu tosturi a'u hymrwymiad i nyrsio plant."

Llun: O'r chwith i'r dde - Robyn Leary, Capten Jack Sparrow, Gemma Hale ac Angharad Hughes.