Llyfrgell Glowyr De Cymru'n rhoi benthyg llun arweinydd Siartwyr Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru wedi rhoi benthyg llun wedi'i fframio o John Frost, arweinydd Siartwyr De Cymru, i arddangosfa hanes bwysig yn Senedd San Steffan i ddathlu Mudiad y Siartwyr.

John Frost1Agorwyd yr arddangosfa'r wythnos hon gan John Bercow, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, a chadeiriwyd yr agoriad gan Dr Hywel Francis, Aelod Seneddol Aberafan.

Dywedodd Dr Francis: "Dyma oedd y tro cyntaf i'r Siartwyr - y mudiad cyntaf i alw am system ddemocrataidd lawn o lywodraeth seneddol - gael eu cydnabod ym Mhalas San Steffan.

"Fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Archifau a Hanes, roeddwn i'n hynod o falch bod y Llefarydd, Mr Bercow, wedi agor yr arddangosfa ar y Siartwyr, a'i fod wedi nodi pa mor bwysig oedd y Siartwyr, ac wedyn y swffragetiaid, o ran yr ymgyrch o blaid democratiaeth seneddol."

Rhoddwyd y llun o John Frost i Lyfrgell Glowyr De Cymru yn fuan ar ôl iddi agor, 40 mlynedd yn ôl. Fe'i rhoddwyd i'r Llyfrgell gan Edgar Evans, o Fedlinog, oedd wedi'i gael oddi wrth deulu Joe Sparkes, gor-or-nai i John Frost.

John Frost2Bydd yr arddangosfa ar agor yn y Senedd tan ddiwedd mis Hydref.


Lluniau: Simon O’Connor.