Llwyddiant Myfyrwyr yn Rhaglen 1000 o Fywydau a Mwy

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tri myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi'u gwahodd i ddigwyddiad gofal iechyd yn Abertawe'r mis nesaf i gydnabod eu prosiectau, sydd wedi helpu i wella gofal i gleifion yng Nghymru.

Bydd Becci Johnson, Joe Polson ac Alexandra Eaton o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn rhoi cyflwyniadau yn y Dosbarth Meistr a Digwyddiad Dysgu Cenedlaethol a drefnir gan 1000 o Fywydau a Mwy, rhaglen sy'n cynorthwyo darparu'r gofal iechyd mwyaf diogel, ac o'r safon uchaf, i bobl Cymru. 

Sefydlodd Becci, sy'n fyfyriwr BMid Bydwreigiaeth yn ei thrydedd flwyddyn, grŵp cefnogol o gyfoedion i famau sy'n rhoi'r fron, tra'r oedd ar leoliad gyda Thîm Bydwragedd Cymunedol yn Aberdaugleddau yn 2012.

Becci Johnson and breastfeeding support groupGweithiodd mewn partneriaeth â dwy fam ifanc leol i ddatblygu'r grŵp, a llwyddodd i gael grant o £240 o Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, i alluogi'r grŵp i gwrdd yn rheolaidd yn y ganolfan hamdden leol.  Dywedodd Becci fod y grŵp yn helpu'r menywod sy'n mynychu'r grŵp i barhau i roi'r fron, ac mae'n gobeithio y bydd yn cynyddu'r nifer sy'n cychwyn rhoi'r fron hefyd.

Ychwanegodd: "Dwi'n falch iawn o gael fy ngwahodd i'r digwyddiad. Mae'n hyfryd i gael cydnabyddiaeth am bwysigrwydd y grŵp, ar ben y sylwadau cadarnhaol a ddaeth oddi wrth y mamau eu hunain. Dwi'n edrych ymlaen at glywed am brosiectau myfyrwyr eraill hefyd."

Roedd Joe ac Alex, sy'n fyfyrwyr BSc Nyrsio Iechyd Meddwl yn eu blwyddyn gyntaf, ar leoliad mewn ward asesu iechyd meddwl pobl hŷn yng Ngorllewin Cymru pan luniasant gynllun i helpu cleifion i ddod o hyd i'r toiledau'n haws.

Dywedodd Joe: "Roedd llawer o'r cleifion yn cael anhawster gweld yr arwyddion presennol oedd yn fach iawn ac oedd yn defnyddio cynllun lliw niwtral.  Ein hawgrym ni oedd y dylid defnyddio arwyddion mwy - a mwy lliwgar - gyda lluniau arnynt, yn lle'r hen arwyddion, ac yn awr mae cynlluniau ar y gweill i ddefnyddio'r arwyddion newydd ar y ward. Mae Alex a minnau'n hynod o falch ein bod wedi cael cyfle i wneud cyfraniad o ddifrif i les y cleifion."

Cynhelir y digwyddiad yn Stadiwm Liberty yn Abertawe ar 10 ac 11 Mehefin.  Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk/hafan

Llun: Becci (yn y canol) gyda grŵp