Llwyddiant chwiorydd yn ennill tystysgrifau 'Dysgwr Clod Uchel'

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dwy chwaer o Abertawe, Cheryl Havard a Marie Nash, wedi derbyn tystysgrifau Dysgwr Clod Uchel yng Ngwobrwyon Dysgu Oedolion Ysbrydoli! 2013, a drefnir gan NIACE Dysgu Cymru.

Ac mae'r chwiorydd, sy'n astudio Gradd Ran Amser yn y Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe, yn yr Adran Addysg Barhaus Oedolion, yn dweud bod astudio wedi agor cyfnod newydd yn eu bywydau.

Cheryl HavardDechreuodd Cheryl Havard, sy'n 32 oed ac yn dod o Clase, ar ei chwrs rhan amser yn 2010. Ar ôl cael tri phlentyn pan oedd yn ifanc iawn, dywedodd ei bod yn cael anhawster astudio, ond gan fod ei phlant yn mynd yn hŷn, roedd hi'n teimlo bod yr amser wedi cyrraedd iddi hi allu dechrau dysgu.

Dechreuodd trwy wneud cyrsiau yn ei Chanolfan Deuluol leol yn Clase, ac yn fuan iawn, roedd ganddi chwant am ddysgu, ac aeth ymlaen o gwrs i gwrs. Cafodd ddigon o anogaeth oddi wrth staff AABO hefyd, a phenderfynodd symud ymlaen i'r Rhaglen Paratoi at Radd BA yn y Dyniaethau.

"Dewisodd Cheryl fodiwlau cymdeithaseg a hanes, ac aeth ati'n frwd iawn, gan ennill marciau da yn y ddau asesiad", dywedodd Vanessa Thomas, Swyddog Datblygu'r Radd Ran Amser yn AABO.

"Ar ôl cwblhau'r cwrs, roedd gan Cheryl ddigon o hyder i gymryd y cam nesaf i'r Radd Ran Amser yn y Dyniaethau, ac mae wedi dangos yr un frwdfrydedd am hynny."

Yn ogystal ag astudio, gwirfoddolodd Cheryl i fod yn Gynrychiolydd Dosbarth Gradd Ran Amser am ei chwrs yn ystod 2011. Bu'n weithgar iawn, gan fynychu cyfarfodydd y Grŵp Cydlynu Staff a Myfyrwyr lle gwnaeth hi gyfraniad llawn trwy awgrymu syniadau a thrwy fod yn ddolen allweddol rhwng y Brifysgol, y staff, a myfyrwyr cymunedol.

Mae Cheryl wedi bod yn fyfyriwr llysgennad hefyd, gan ymweld â'i chanolfan deuluol leol i sôn am ei phrofiadau dysgu cadarnhaol a sut maent yn llywio ei dyfodol. Daeth yn aelod gwirfoddol o bwyllgor credyd yr Undebau Credyd hefyd.

Dywedodd Cheryl, a enillodd Wobr Dysgwr Clod Uchel yn ystod Wythnos Dysgu Oedolion yn 2010 hefyd: "Dwi yn nhrydedd flwyddyn fy ngradd bellach, ac yn mwynhau bob munud ohoni! Mae'r darlithwyr yn anhygoel, a dwi wedi dysgu cymaint o bethau newydd, a gallu pasio'r wybodaeth ymlaen i fy mhlant. Dwi wir yn gobeithio y bydd y plant yn dilyn f'esiampl, ac yn cael addysg prifysgol.

"Pan oeddwn i'n astudio, byddwn yn sôn wrth fy chwaer, Marie, am fy nghyrsiau, am y bobl, am sut yr oedd wedi cynyddu fy hunan-hyder, am faint yr oeddwn wedi dysgu, ac am y ffrindiau newydd hefyd. Dwi mor falch, ar ôl llawer o anogaeth, bod Marie'n astudio am radd ran amser hefyd - ac yn yr un lle â minnau.

"Bellach, dwi'n ystyried gwneud y TAR pan fyddaf yn gorffen fy ngradd. Gallaf adeiladu gwell dyfodol i fy hun, ond hefyd i fy mhlant - a dwi wrth fy modd fy mod wedi chwarae rhan gadarnhaol yn nyfodol teulu fy chwaer hefyd!"

Marie NashRoedd Marie Nash, sy'n 36 oed ac yn dod o Ynysforgan, wedi eisiau mynd yn ôl at addysg ers peth amser. Roedd Cheryl wedi rhannu ei phrofiadau dysgu gyda Marie, ac roedd hi'n gallu gweld sut oedd dyfodol ei chwaer yn edrych yn fwy disglair.

O'r diwedd, llwyddodd ymgais Cheryl i annog ei chwaer i gychwyn ar y rhaglen Paratoi at y BA. Mwynhaodd Marie'r cwrs, gan ddweud yr oedd wedi sbarduno a dal ei diddordeb, gan roi iddi'r hyder i gofrestru ar gyfer y Radd BA ran amser yn y Dyniaethau.

Mae Marie yn rhiant sengl sydd wedi astudio ochr-yn-ochr â magu ei dau blentyn a gweithio llawn amser, a dywedodd ei bod am adeiladu gwell bywyd iddi hi ac i'w theulu. Bellach, mae'n gobeithio cychwyn ar yrfa dysgu, neu o bosib mynd i weithio dros sefydliad cymorth, megis Cymorth i Fenywod.

"Heb anogaeth a chefnogaeth Cheryl, fyddai Marie ddim wedi cychwyn ar ei thaith ddysgu gydag AABO," dywedodd Vanessa Thomas.

"Ond mae Marie yn rhagori yn y cwrs, yn union fel ei chwaer, ac yn dod yn ddelfryd ymddwyn ysbrydoledig i'w phlant. Mae dyfodol disglair o flaen y ddwy chwaer!"

Dywedodd Marie: “Roedd mynd yn ôl i addysg yn rhywbeth roeddwn i wedi bod eisiau ei wneud erioed, ond wnes i erioed feddwl y byddwn i’n cael y cyfle. Hawdd iawn yw 'mynd i rigol', a gadael i bethau eraill fynd â'ch sylw i gyd.

“Fel rhiant sengl sy’n gweithio’n rhan-amser roeddwn i’n pryderu braidd a fyddwn i’n gallu jyglo fy holl ymrwymiadau, ond unwaith i fi gychwyn ar y cwrs, diflannodd yr amheuon i gyd - roedd yr holl gefnogaeth ar gael i mi.

"Roedd y dosbarthiadau'n wahanol iawn i ddysgu yn yr ysgol, ac roedd y cymorth a gynigiwyd gan staff AABO yn dileu unrhyw esgus, a chodi brwdfrydedd newydd am ddysgu - ac roeddwn i'n mwynhau cwrdd â phobl newydd hefyd.

"Mae cymorth parhaus fy chwaer ac AABO wedi bod yn wych. Mae fy mlwyddyn gyntaf bron â dod i ben, a dwi heb edrych yn ôl. Fy nod nawr yw cwblhau fy ngradd a newid cyfeiriad gyrfa.

“Bellach rwy’n sylweddoli mai’r unig beth oedd yn fy nal yn ôl oedd hunan-amheuaeth.”

Am ragor o wybodaeth am y rhaglenni a gynigir gan AABO ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i  http://www.swansea.ac.uk/dace/.