Enwi Prifysgol Abertawe’n Brifysgol Fasnachol y Flwyddyn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r tîm Gwasanaethau Masnachol a Champws ym Mhrifysgol Abertawe wedi curo cystadleuaeth ffyrnig o Brifysgol Nottingham a Durham i ennill teitl mawreddog Prifysgol Fasnachol y Flwyddyn 2013.

Roedd gwobr Prifysgol Fasnachol y Flwyddyn yn un o 7 anrhydedd a ddyfarnwyd gan CUBO – Cymdeithas y Swyddogion Busnes Colegau a Phrifysgolion. Cynhaliwyd seremoni wobrwyo CUBO 2013 ym Mhrifysgol Essex ddoe (3 Gorffennaf), gyda’r chwaraewr snwcer o fri, Steve Davis, yn cyhoeddi’r enillwyr.

Commercial University award

Dywedodd Raymond Ciborowski, y Cofrestrydd a’r Prif Swyddog Gweithredu ym Mhrifysgol Abertawe; “Mae’r Gwasanaethau Masnachol a Champws yn adran uchelgeisiol, ddeinamig ac arloesol yng nghalon Prifysgol Abertawe - gan gyfuno arlwyo, chwaraeon, cynadledda, gwasanaethau campws ac isadran datblygu busnes newydd ei ffurfio.

“Rydw i wrth fy modd fod y tîm wedi’i gydnabod gan CUBO am eu llwyddiant wrth wireddu’n dymuniad i ddatblygu gwasanaethau rhagorol, gan ddarparu profiadau bythgofiadwy a chan gymell proffidioldeb.

“Mae’r gwasanaethau a weithredir ar y campws wedi mynd trwy gyfnod o newid arwyddocaol, ailstrwythuro a datblygu ond mae’r brif thema dros y flwyddyn ddiwethaf wedi ymwneud â gweithio mewn partneriaeth. Mae’r tîm, mewn menter ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr wedi gweithio gyda MyCostcutter i agor siop newydd ar y campws, wedi gweithio gyda chlwb pêl-droed Dinas Abertawe i ddatblygu a gweithredu cyfleusterau hyfforddi ar y cyd ac mewn cydweithrediad â Bay Leisure, wedi agor y ganolfan traeth a chwaraeon dŵr ‘360’ pwrpas deuol cyntaf yn y wlad.

“Ac mae mwy i ddod gyda’r Brifysgol yn dechrau ar ei brosiect mwyaf uchelgeisiol hyd yma, sef datblygu’r ail gampws £250m newydd – y prosiect mwyaf o’i natur yn Ewrop. Bydd hwn yn dod â rhagor o gyfleoedd i’r adrannau masnachol fynd ar drywydd cytundebau datblygu a phartneriaeth yn ogystal â mentrau a phrosiectau parhaus eraill ar gampws Singleton.

“ Ar y cyfan, dyma adeg gyffrous i Brifysgol Abertawe – Prifysgol sy’n sicr ar i fyny.”

Llun: O’r chwith i’r dde – Nicolas Guerin [Rheolwr Gyfarwyddwr Bouygues Development (Noddwr)], Paul Robinson [Pennaeth Gwasanaethau Masnachol, Prifysgol Abertawe], Ben Lucas [Rheolwr Datblygu Busnes a Marchnata, Prifysgol Abertawe] a Paddy Jackman [Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol, Imperial College Llundain (Cyflwynwydd/Meistr y Seremoni)].