Dysgwch Hen Iaith yn y Parc yr Haf hwn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn dilyn llwyddiant prosiect Lladin yn y Parc y llynedd, bydd rhai o fyfyrwyr mwyaf talentog yr Adran Hanes a'r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe yn dysgu cyrsiau Lladin, Groeg a hieroglyffau ym Mharc Singleton bob prynhawn Sadwrn ym mis Mehefin a Gorffennaf.

Mae'r cyrsiau, sy'n addas i ddechreuwyr yn ogystal â siaradwyr Lladin lefel ganolradd ac uwch, yn dechrau ar ddydd Sadwrn, Mehefin 8 ac yn gorffen ar ddydd Sadwrn, Awst 3.

Caiff dosbarthiadau Lladin i Ddechreuwyr a Lladin Uwch, yn ogystal â dosbarthiadau Groeg i Ddechreuwyr eu cynnal rhwng 2pm a 3pm, gyda dosbarthiadau Lladin Canolradd a Hieroglyffau i Ddechreuwyr rhwng 3.30 - 4.30pm, a bydd yr holl ddeunydd ar gyfer y dosbarthiadau yn cael eu darparu.

Rhwng y dosbarthiadau, bydd gweithdy wythnosol hefyd ar destun hwyl a diddorol sy'n gysylltiedig â'r hen fyd.  Ac ar ddydd Sadwrn olaf y cwrs, bydd barbiciw Rhufeinig, a fydd yn cynnwys arddangosiad coginio Rhufeinig, ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan yn y cyrsiau a'u teuluoedd.

Meddai cydlynydd y prosiect, Dr Evelien Bracke, o'r Adran Hanes a'r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'r iaith Ladin yn sail i fwyafrif ieithoedd Gorllewin Ewrop, a bydd gafael ar Ladin yn ei wneud yn haws i ddysgu ieithoedd megis Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg. Mae gan Saesneg llawer o debygrwydd â Lladin hefyd, gyda dros 60% o eiriau Saesneg yn deillio o Ladin.

"Lladin oedd iaith yr hen Rufain, a bu'n iaith gyffredin Ewrop ers hynny, ac mae wedi llunio llawer o hanes Ewrop hyd heddiw mewn gwirionedd. Mae gwybodaeth o Ladin yn datgloi amrywiaeth eang o destunau a storïau hyfryd ar draws yr oesoedd; mae'n sgil sy'n rhoi pleser a dealltwriaeth am oes.

"Mae hen Roeg yn sail i lawer o iaith wyddonol Saesneg, ac mae'r sgript newydd yn cynnig heriau rhyfeddol a chipolwg ar gymdeithas hŷn.

"A bydd cyflwyniad i Hieroglyffau yn caniatáu i chi ddeall rhai arysgrifau hen Eifftaidd, ac yn darparu dull diddorol o gysylltu â byd sydd wedi hen ddiflannu."

Y ffi ar gyfer y cyrsiau yw naill ai £3 y dosbarth - y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw troi i fyny ar y dydd â thalu - neu gallwch dalu o flaen llaw, gyda ffi o £22 ar gyfer naw dosbarth. Mae croeso i blant dan 16 cyhyd â bod oedolyn yn dod gyda nhw; gall plant dan 12 oed ddod i'r dosbarthiadau am ddim.