Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae'r chwaraewyr yn barod, mae'r offer yn lân, ac mae'r tymheredd yn codi.
Mae timoedd y ddwy brifysgol yn mynd benben mewn dros 25 o wahanol chwaraeon i benderfynu pwy fydd yn ennill Tarian y Prifysgolion yn 2013. Mae'r frwydr flynyddol yn cyrraedd ei hanterth yn Stadiwm y Mileniwm nos Fercher wrth i'r timoedd rygbi chwarae'r gêm sy'n ganolog i'r cyfan. Aeth dros 15,500 i weld gêm y llynedd.
Cynhwysir chwaraeon eraill yn y gemau hefyd, gan gynnwys hoci, sboncen, badminton, lacrós, rhwyfo, golff, pêl-rwyd, pêl-foli, cleddyfaeth, ac ystod o chwaraeon eraill gan gynnwys crefft ymladd a ffrisbi eithafol. Mae'n ddigwyddiad codi arian, ac aiff yr elw at nifer o achosion da.
Chwaraewyd Gêm Sefydlu Gêm Prifysgolion Cymru ym 1997 ym Mhrifddinas Cymru, yng nghartref Clwb Rygbi Caerdydd, sef Parc yr Arfau. Chwaraewyd y gêm rhwng dwy brifysgol fwyaf Cymru, sef Caerdydd ac Abertawe, gan fabwysiadu model llwyddiannus y "Farsity". Aeth yr holl elw o'r digwyddiad i Oxfam.
Yn y blynyddoedd cynnar, chwaraewyd y gêm bob yn ail flwyddyn ym Mharc yr Arfau ac ym Mharc San Helen, cartref Clwb Rygbi Abertawe. Yn 2003, ac wedyn tan 2007, chwaraewyd y gêm ar dir niwtral, ar Gae'r Bragdy ym Mhenybont-ar-Ogwr.
Yn hanesyddol, Abertawe yw'r ffefryn arferol ar ôl ennill 10 gêm hyd yma, gan golli pum gwaith. Roedd y sgôr yn gyfartal yn y gêm arall.
Mae Prifysgol Abertawe wedi bod mewn sefyllfa yn rheolaidd i ddewis o gronfa ddofn o chwaraewyr talentog iawn - chwaraewyr megis Alun Wyn Jones, Ritchie Pugh a Dwayne Peel. Maent i gyd yn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, ac roeddent i gyd yn chwarae yn nhîm Farsity Abertawe. Yn 2007, roedd gan Abertawe 11 o chwaraewyr rhyngwladol FIRA yn y tîm, gan ennill y gêm ym Mharc yr Arfau.
Mae sawl myfyriwr o Abertawe a Chaerdydd wedi symud ymlaen i gynrychioli, ac ennill contractau gyda, chlybiau is-broffesiynol a phroffesiynol yn sgil perfformiadau gwych yng Ngêm Farsity Cymru. Yn 2007, cytunodd y ddwy brifysgol i roi Cap i bob myfyriwr sy'n chwarae yng Ngêm y Farsity. Mae hyn wedi ychwanegu at y cystadlu brwd mewn un o gemau mwyaf cystadleuol y flwyddyn i'r ddau dîm.
Dywedodd Paul Thorburn, graddedig o Abertawe a Chymrawd Anrhydeddus: "Chwaraeais i dros Brifysgol Abertawe yn y gêm gyfatebol yn gynnar yn y 1980au. Bryd hynny, roeddem ni'n lwcus i gael un dyn a'i gi'n ein gwylio o'r llinell ystlys. Mae'n ddigwyddiad enfawr bellach, gyda thros 15,500 a hanner yn dod i'r gêm. Mae'n achlysur gwych, gyda'r awyrgylch fel math o garnifal."
Dywedodd Joe Lydon, Pennaeth Rygbi Undeb Rygbi Cymru: "Cyfuno proffesiynoliaeth chwaraeon â sefydliadau academaidd - dyna'r ffordd ymlaen. Mae mwy a mwy o chwaraewyr yn pontio'r bwlch rhwng rygbi proffesiynol a pharatoi at yrfa ar ôl rhoi'r gorau iddo. Mae mwy o chwaraewyr Farsity'n mynd i rygbi rhanbarthol a phroffesiynol."
Cynhelir gêm eleni - y 17eg - ar 24 Ebrill 2013.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, canlyniadau'r gorffennol, a gornest eleni, ewch i: http://www.swansea.ac.uk/varsity neu http://www.welshvarsity.com .
Ceir gwybodaeth am Glwb Rygbi Prifysgol Abertawe yn: http://www.pitchero.com/clubs/swanseauniversityrfc
- Dydd Mercher 24 Ebrill 2013 13.36 BST
- Dydd Iau 22 Mawrth 2018 16.11 GMT
- Swansea University, Ffôn: 01792 295050