Ddim yn ddiogel mewn unrhyw wely: Athrawon yn archwilio problemau TG gofal iechyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y ddarlith hon, sy'n rhad ac am ddim ac sy'n agored i bawb, yn rhoi sylw i ofal iechyd yn ein hysbytai sy'n cael eu dominyddu'n fwyfwy gan gyfrifiaduron.

‎Harold Thimbleby

Harold ThimblebyMae teitl y ddarlith Unsafe in any Bed yn adlais o adroddiad melltithiol Ralph Nader o'r diwydiant ceir yn y 1960au Unsafe at Any Speed,  wrth i'r ddarlith grybwyll cyflwr gwael TG gofal iechyd heddiw a chynnig datrysiadau i broblemau ar gyfer y dyfodol.

Teitl: Unsafe in any bed

Siaradwyr: Yr Athro Harold Thimbleby, Prifysgol Abertawe, Cymru, a'r Athro Ross Koppel, Prifysgol Pennsylvania, UDA.

Caiff y ddarlith ei chadeirio gan David Ford, Athro mewn Gwybodeg Iechyd a Chyfarwyddwr Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd Cymru, Prifysgol Abertawe.

Dyddiad: Dydd Mawrth 26 Chwefror

Amser: 6.30 pm – 8pm

Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb

Ross Koppel

Ross KoppelYn y ddarlith hon bydd yr Athro Koppel yn cyflwyno enghreifftiau cyfredol o TG Gofal Iechyd ac yn archwilio pam y mae cymaint ohoni'n methu ag ymateb i anghenion clinigwyr a chleifion.

Bydd yr Athro Thimbleby yna'n dangos faint o'r problemau hyn sy'n deillio o wallau dylunio nad ydynt yn weladwy hyd nes ei fod yn rhy hwyr; bydd yna'n dangos sut y gellid osgoi'r problemau hyn fel bod cleifion yn fwy diogel.

Gyda'i gilydd, bydd yr Athro Koppel a'r Athro Thimbleby'n dadlau gyda'r gynulleidfa ynghylch ffyrdd o wella gofal iechyd yn ein hysbytai sy'n cael eu dominyddu'n fwyfwy gan gyfrifiaduron. 

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Ymchwil Prifysgol Abertawe - arddangosiad wythnos o hyd o ragoriaeth ymchwil, a gynhelir o ddydd Llun, Chwefror 25 tan ddydd Gwener, Mawrth 1, 2013. Mae'r digwyddiad wedi'i ariannu gan brosiect Pontio'r Bylchau Prifysgol Abertawe a ariannir gan y cyngor.