Dau Fis tan Frwydr Fawr y Prifysgolion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y frwydr flynyddol rhwng Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd sef Gêm Prifysgolion Cymru yn cael ei chynnal ddydd Mercher 24 Ebrill yn Stadiwm Mileniwm Cymru.

Varsity

Bydd y gêm rygbi a welwyd gan dros 15,000 o bobl y llynedd yn dechrau am 7.30yh wedi wythnos gyfan o frwydro caled ar y caeau chwarae mewn meysydd megis criced, hoci, sboncen a lacrós.

Dros y blynyddoedd, mae Prifysgol Abertawe wedi gallu dewis tîm o chwaraewyr disglair gan gynnwys Alun Wynn Jones, Ritchie Pugh a Dwayne Peel. Nôl yn 2007, roedd 11 aelod o dîm Abertawe yn chwaraewyr rhyngwladol FIRA a nhw oedd y fuddugol ar y noson honno ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.

Mae’r bencampwriaeth wedi tyfu’n flynyddol ers 1997 ac mae gemau wedi’u cynnal ym Mharc yr Arfau, Caerdydd a San Helen, Abertawe am yn ail. Ond ers 2003, mae’r gemau wedi’u cynnal ym Mhen-y-bont, Stadiwm y Liberty a Stadiwm y Mileniwm.

Bydd cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe a’r cyn chwaraewr rhyngwladol Paul Thorburn yn cadw llygad barcud ar fyfyrwyr 2013 gan ei fod wedi’i benodi’n Gadeirydd Varsity Cymru.

Meddai Paul: ‘‘Mae’r ddau dîm wedi bod yn gystadleuol ar hyd y blynyddoedd ond bellach mae’r dorf o bron i 20,000 wedi ychwanegu mwy o gynnwrf. Buaswn i’n annog pawb sy’n hoff o’r gamp i fynychu’r gêm, nid yn unig oherwydd yr awyrgylch ond ei harddull. Nid yw’r timau mor ddibynnol ar batrymau anhyblyg fel y gwelir ar lefel broffesiynol sy’n golygu y caiff y dorf eu diddanu â dull mwy greddfol o chwarae, sy’n beth braf.’’

Ychwanegodd Imogen Stanley, Swyddog Chwaraeon Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: ‘‘Wedi’r holl ymarfer yn y gwynt a’r glaw, wynebu Caerdydd yn y brifddinas fydd yr uchafbwynt. Mae’r bencampwriaeth yn creu cymuned glos ar y campws a ni fyddai gystal heb gefnogaeth y myfyrwyr. Ar ran Undeb y Myfyrwyr a thîm Chwaraeon Abertawe, hoffwn ddymuno’r gorau i bawb ac rwy’n edrych ymlaen at y diwrnod mawr.’’

Deufis yn unig sydd tan y diwrnod mawr, ac mae’r trefnwyr yn disgwyl i’r tocynnau werthu’n gyflym i fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr yn ogystal â’r rheiny sy’n hoff o’r bêl hirgrwn.

£15 yw pris tocyn a £12.50 i fyfyrwyr. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yma www.welshvarsity.com

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am dîm rygbi Prifysgol Abertawe yma http://www.pitchero.com/clubs/swanseauniversityrfc