Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae cyfres darlithoedd cyhoeddus Prifysgol Abertawe mewn Diwinyddiaeth 2013/14 yn parhau gyda darlith gan M. Wynn Thomas, Athro mewn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe sydd hefyd yn Weithredwr Llenyddol ar gyfer R.S. Thomas.
Sefydlwyd y Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn wreiddiol gan y Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan yn y Brifysgol ac mae’r rhaglen wedi cynnwys arweinwyr Eglwysig o fri rhyngwladol ac academyddion byd-enwog sydd wedi siarad ar ystod o wahanol destunau.
Teitl: “The brush’s piety”: R.S. Thomas’s painting poems
Siaradwr: Yr Athro M. Wynn Thomas
Dyddiad: Dydd Mercher 27ain Tachwedd 2013
Amser: 7.00pm
Lleoliad: Darlithfa Faraday ‘K’, Prifysgol Abertawe
Mynediad: Am ddim, croeso i bawb
Manylion cyswllt: Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan, Prifysgol Abertawe. Ffôn: 01792 606444 neu e-bost: n.john@abertawe.ac.uk
- Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2013 10.22 GMT
- Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2013 10.26 GMT
- Swansea University