Cronfa Goffa Saunders Lewis i Academydd Amryddawn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dr Rhianedd Jewell, Tiwtor gydag Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yw un o ddeiliaid diweddaraf Ysgoloriaeth Cronfa Goffa Saunders Lewis.

Rhianedd Jewell

‌Cafodd yr ysgoloriaeth ei rhannu rhwng dau ymgeisydd eleni a bwriad Dr Jewell yw defnyddio’i chyfran hi, sef £4,000 i ddadansoddi cyfieithiadau Saunders Lewis o ddramâu dau ffigwr yn llenyddiaeth Ffrangeg.

Bydd hi’n astudio dramau Samuel Beckett a Molière gan edrych ar newidiadau nodweddiadol i’r testunau gwreiddiol a chynnig rhesymau posib trostynt.

Ei gobaith yw cwestiynu a oes gan gyfieithydd hawl i addasu gwaith gwreiddiol ac i ba raddau y gellir diffinio cyfieithiad yn gelfyddydwaith annibynnol.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd Dr Jewell yn treulio peth amser yn llyfrgell Prifysgol Rhydychen er mwyn ei chynorthwyo â’r gwaith cyn cyflwyno adroddiad cryno mewn ffurf addas i’w chyhoeddi.

Bydd hyn yn galluogi’r academydd ifanc i ddychwelyd i dir cyfarwydd wedi cyfnod helaeth yn astudio ieithoedd yn Rhydychen cyn ennilll doethuriaeth mewn Llenyddiaeth Eidaleg oddi yno yn 2012.

Dyma’r ail o blith academyddion y brifysgol i dderbyn yr ysgoloriaeth yn olynol. Athro Cymraeg y Brifysgol, Tudur Hallam ddaeth i’r brig yn 2010 wnaeth ei alluogi i ysgrifennu astudiaeth feirniadol ar waith dramataidd Saunders Lewis.

Meddai Dr Rhianedd Jewell: ‘‘Rwyf yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth Cronfa Goffa Saunders Lewis a fydd yn fy ngalluogi i lunio astudiaeth wreiddiol o waith cyfieithu Saunders Lewis.’’

Ychwanegodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: ‘‘Rydym fel Academi'n ymfalchïo'n fawr yn llwyddiant Rhianedd ac yn dymuno'n dda iddi wrthi iddi fwrw ati i ehangu'n dealltwriaeth a'n hymwybyddiaeth o gyfraniad sylweddol Saunders Lewis i ddeallusrwydd Cymraeg.’’