Clod i Fyfyrwyr Abertawe yn Qatar

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd myfyrwyr wnaeth gymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol o bwys eu canmol gan Is-ganghellor Prifysgol Abertawe yn ddiweddar.

Derbyniodd Layla Sabeel, Rahaf Darmerli, Abdulkarim Saud Alotaibi a Safwat Rihawi dystysgrifau mewn digwyddiad arbennig ar gampws Prifysgol Abertawe.

Qatar post event

Mi wnaeth y pedwar myfyriwr rhyngwladol ddangos eu doniau mewn pencampwriaeth ryngwladol yn Doha, Qatar. Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Sefydliad Datblygu MICE QATAR, menter ar y cyd â Sefydliad Qatar.

Cafodd myfyrwyr o bedwar ban byd eu gwahodd i fynychu’r digwyddiad blynyddol ac eleni oedd y tro cyntaf i Brifysgol o’r DU gymryd rhan.

Bu’r criw wrthi’n ddyfal yn paratoi ar gyfer yr achlysur gan gynnal sawl sesiwn ymarfer ym Mosg y campws a derbyn hyfforddiant gan arbenigwyr yn y maes.

Cafodd yr hyfforddwyr, Mohsen El-Beltagi a Mahaboob Basha eu canmol gan Gyfarwyddwr Canolfan Qatar, Hayat Maarah am eu brwdfrydedd a’u hagwedd gadarnhaol heb anghofio’u cefnogaeth ac arweiniad diflino trwy gydol y gystadleuaeth.

Meddai’r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Rydym yn falch iawn o’r hyn mae’n myfyrwyr a hyfforddwyr wedi ei gyflawni. Mi wnaethant godi proffil y Brifysgol a’n cynrychioli mewn modd proffesiynol yn llawn hyder heb anghofio llwyddo i ddatblygu cyfeillgarwch yn ystod y broses.