Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe'n gyfle i bawb gael gwybod mwy am feysydd newydd, cyffrous, a chyfredol yn y byd gwyddoniaeth mewn modd anffurfiol a difyr.
Teitl: Nanotechnoleg: ydyn ni wedi cyrraedd 'to?
Siaradwr: Dr Richard Cobley o Brifysgol Abertawe
Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Hydref 2013. Mae hyn yn wahanol i'r dyddiad arferol, sef dydd Mercher olaf y mis.
Amser: 7:30pm
Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe
Mynediad: Yn rhad ac am ddim, croeso i bawb
Crynodeb hirach: Yn y ddarlith hon, a drefnwyd ar y cyd â'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol, bydd Dr Richard Cobley'n trafod nanotechnoleg, gwyddor y byd bach iawn.
Trafodir Nanotechnoleg fel technoleg wyrthiol sydd ar fin achub y byd, a hefyd fel testun hunllef ffuglen wyddonol. Ond beth yw hi, o le daeth hi, a phaham ydy hi'n bodoli'n faes gwyddoniaeth a pheirianneg unigryw?
Bydd y ddarlith hon yn defnyddio ymagwedd annhechnegol i ateb y cwestiynau hyn, yn sôn am ragfynegiadau anghywir y gorffennol, yn defnyddio ambell i arddangosiad byw, ac yn y diwedd, yn ateb y cwestiwn pwysicaf oll: ydyn ni wedi cyrraedd 'to?
Manylion cyswllt: http://swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/
- Dydd Llun 14 Hydref 2013 12.34 BST
- Dydd Llun 14 Hydref 2013 12.36 BST
- Swansea University