Caffe Gwyddoniaeth Mis Ebrill: Colli'ch gwynt: Clefyd yr ysgyfant a datblygu ysgyfant artiffisial

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe'n gyfle i bawb ddod i gael gwybod mwy am feysydd newydd, cyffrous, a chyfredol yn y byd gwyddoniaeth mewn modd anffurfiol a difyr.

Teitl: ‘Taking your breath away: Lung disease and the development of an artificial lung’

Siaradwr: Dr Melitta McNarry, Prifysgol Abertawe

Dyddiad: Mercher 24ain  Ebrill

Amser: 7:30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad:  Yn rhad ac am ddim, croeso i bawb

Yn y ddarlith hon, bydd Dr McNarry'n canolbwyntio ar heriau afiechyd resbiradol, sy'n lladd un o bob pedwar ohonom yn y DU - mwy nag afiechyd y galon.

Dyma'r afiechyd hirdymor mwyaf cyffredin ymhlith plant, a'r afiechyd mwyaf cyffredin o ran derbyniadau brys i'r ysbyty; ac mae'n costio mwy i'r GIG nag unrhyw faes afiechyd arall.

Er bod nifer o ddewisiadau ar gael o ran triniaeth, mae gan lawer o'r rhain gyfyngiadau difrifol, megis sgil effeithiau'r cyffuriau neu ddiffyg ysgyfaint i'w trawsblannu.

Yn wir, dim ond 1,000 o ysgyfaint a drawsblannwyd yn 2005, er bod dros 3,500 o bobl ar y rhestr aros yn UDA yn unig. Mae hyn yn tanlinellu'r angen brys i ni ddatblygu ysgyfant artiffisial, ond pa mor realistig yw hynny?

Bydd Dr McNarry'n trafod yr ymdrechion sydd ar y gweill i ymateb i'r angen hwn trwy ddatblygu ysgyfant artiffisial fydd yn caniatáu rhyddid symudiad i'r claf, ac ansawdd bywyd llawer gwell.

Manylion cyswllt: http://swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/