A yw seiberderfydgaeth yn fygythiad arwyddocaol?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae arolwg byd-eang o arbenigwyr wedi datgelu er bod dros hanner y bobl hynny a gwestiynwyd yn ystyried seiberderfydgaeth fel bygythiad sylweddol i ddiogelwch, dim ond ychydig o gytuno a geir ar yr hyn y mae'r term yn ei olygu, neu p'un ai y mae ymosodiad eisoes wedi digwydd hyd yn oed!

Mae tîm ymchwil amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Abertawe wedi cwblhau arolwg byd-eang o farn arbenigwyr ar seiberderfydgaeth. Bu'r arolwg yn canolbwyntio ar y cysyniad o seiberderfydgaeth, ei harwyddocâd ac ymatebion priodol iddi, yn ogystal ag archwilio barn ymchwilwyr ar statws presennol gwybodaeth academaidd ar y mater diogelwch pwysig hwn. Gwnaeth yr arolwg gasglu cyfanswm o 118 ymateb gan academyddion ac ymchwilwyr eraill yn gweithio mewn 24 o wledydd ar draws chwe chyfandir.

Roedd rhai o brif ganfyddiadau'r arolwg yn cynnwys:

  • Bod 35% o'r bobl a ymatebodd yn credu bod diffiniad penodol o seiberderfydgaeth yn hanfodol i wneuthurwyr polisïau.
  • Bod 58% yn ystyried seiberderfydgaeth yn fygythiad sylweddol.
  • Bod 49% yn credu bod ymosodiad seiberderfydgaeth eisoes wedi digwydd.
  • Bod 69% o ymchwilwyr yn credu y gall gweriniaethau ymgysylltu â seiberderfydgaeth.

Meddai cyfarwyddwyr y prosiect o Brifysgol Abertawe - yr Athro Thomas Chwn, Dr. Lee Jarvis a Dr. Stuart Macdonald - am eu canfyddiadau:

"Mae'r ymchwil hon yn darparu cipolwg cwbl gyfredol o'r hyn a ddeallir am seiberderfydgaeth yn y gymuned ymchwil fyd-eang. Mae'r hyn a fydd o ddiddordeb arbennig i ymchwilwyr yn cynnwys pa mor bell yw rhai o'n canfyddiadau o safbwyntiau dominyddol ar y cysyniad o derfysgaeth yn ehangach."

"Mae ein canfyddiadau'n rhoi cipolwg ar wybodaeth bresennol am seiberderfydgaeth, ond maen nhw hefyd yn darparu data pwysig sy'n dangos i ba raddau y mae'r gymuned academaidd yn ymwneud ag ymchwil ac addysgu mewn perthynas â'r her bresennol hon i ddiogelwch ar hyn o bryd."

"Yn ogystal â gwahanol wledydd ac awdurdodaethau cyfreithiol ein hymatebwyr, mae'r ymchwil hon hefyd yn casglu barn ar draws meysydd y gwyddorau ffisegol a chymdeithasol. Mae natur mater megis seiberderfydgaeth o'r fath fel bod cynnal trafodaethau amlddisgyblaethol fel hyn yn hanfodol, ac rydym yn gobeithio y bydd y gwaith hwn hefyd yn darparu cam cyntaf tuag at fentrau tebyg pellach".

Cynigir dadansoddiad pellach o'r canfyddiadau hyn yng nghynhadledd y Prosiect Seiberderfydgaeth sydd ar ddod ar 11-12 Ebrill yn Birmingham, y DU. Mae'r unigolion y cadarnheir y byddant yn siarad yn y gynhadledd yn cynnwys yr Athro Clive Walker (Prifysgol Leeds), Dr. Maura Conway (Prifysgol Dinas Dulyn), a'r Arglwydd Carlile (Cyn Adolygwr Annibynnol Deddfwriaeth Derfysgaeth y DU). Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys archebu lle, ewch i: http://www.cyberterrorism-project.org/cyberterrorismconference.

Gellir lawrlwytho copi llawn o ganlyniadau’r arolwg yma: http://www.cyberterrorism-project.org/cyberterrorism-report/.